Cyn pen 14 diwrnod clir ar ôl i gamera gofnodi trosedd honedig, anfonir hysbysiad o'r bwriad i erlyn (NIP) at geidwad cofrestredig y cerbyd. Bydd yr hysbysiad hwn yn cynnwys dyddiad, amser a lleoliad y trosedd honedig.
Os nad chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd, bydd angen cyhoeddi hysbysiad newydd o'r bwriad i erlyn yn eich enw chi. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar y ceidwad cofrestredig o dan adran 172 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988 i roi gwybod pwy oedd y gyrrwr a bydd angen iddo/iddi lenwi ffurflen wybodaeth am y gyrrwr sy'n dod gyda'r hysbysiad o'r bwriad i erlyn.
Daw ffurflen wybodaeth am y gyrrwr gyda'r hysbysiad. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar geidwad cofrestredig y cerbyd i ddychwelyd y ffurflen hon gan ddweud pwy oedd y gyrrwr pan ddigwyddodd y trosedd honedig. Os nad yw'r cyflymder honedig yn fwy na 26mya dros y terfyn cyflymder, fel rheol bydd y Bartneriaeth Camerâu Diogelwch yn gwneud cynnig amodol o gosb benodedig. Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis derbyn y gosb neu gael gwrandawiad gerbron llys. Mae'n rhaid i lys ddelio ag achosion lle mae'r cyflymder honedig yn fwy na 26mya dros y terfyn cyflymder – ni ellir gwneud cynnig amodol o gosb benodedig.
Os oes gennych ryw gwestiwn am Hysysiad o'r Bwriad i Erlyn, Cynnig Amodol o Gosb Benodedig neu Gwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder, rhaid i chi gysylltu â'r Heddlu yn y cyfeiriad sydd ar eich gohebiaeth.