Go Safe

Welsh Assembly Government National Transport Plan

Cynllun Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, wedi lansio'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol cyntaf erioed sy'n amlinellu sut bydd yn gwireddu gweledigaeth Cymru'n Un o system drafnidiaeth fodern a chynaliadwy i Gymru. Nod y cynllun yw sicrhau system drafnidiaeth sy'n addas i'r 21ain ganrif sy'n seiliedig ar dair prif egwyddor: bodloni'r galw am symudedd gwell a fydd yn galluogi twf economaidd a gwella ansawdd bywyd pobl Cymru; rhoi trafnidiaeth ar lwybr mwy cynaliadwy sy'n defnyddio llai o garbon; a defnyddio arian trafnidiaeth yn fwy effeithiol yn sgîl pwysau cynyddol ar gyllid cyhoeddus. Caiff yr angen i wella diogelwch y rhwydwaith ffyrdd ei nodi yn y cynllun hefyd fel prif gyfrifoldeb, gyda phwyslais penodol ar leihau nifer yr anafiadau ymhlith defnyddwyr diamddiffyn. Croesawyd y cynllun gan Jim Moore, rheolwr Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, a ddywedodd y byddai'r bartneriaeth yn parhau i gydweithio'n agos â Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu i leihau anafiadau trwy fentrau addysg, peirianneg a gorfodi a pharhau ei waith i dargedu grwpiau diamddiffyn megis gyrwyr ifanc a beicwyr modur.

Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol

Categori Newyddion

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page