Mae gennym wefan newydd, sy'n rhoi'r holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am drefn o ddefnyddio camerâu cyflymder a chamerâu golau coch yng Nghymru. Gallwch ddefnyddio'r gronfa ddata camerâu i chwilio am yr holl gamerâu sefydlog, symudol a golau coch yng Nghymru, a'r terfynau cyflymder ar y ffyrdd hynny. Mae 'na adran Cwestiynau Cyffredin sy'n chwalu'r chwedlau am drefniadau gweithredu'r camerâu diogelwch, yn rhoi manylion am ein hymgyrchoedd a chyngor i is-grwpiau fel gyrwyr ifanc/newydd, beicwyr modur, gyrwyr aeddfed a gyrwyr proffesiynol, a manylion am y broses gosbi. Beth yw'ch barn chi amdani?