Go Safe

MCDONALD’S LLEOL YN CEFNOGI YMGYRCH I ATAL MARWOLA

MCDONALD’S LLEOL YN CEFNOGI YMGYRCH I ATAL MARWOLAETHAU DISYNNWYR AR EIN FFYRDD

LOCAL MCDONALD’S BACKS CAMPAIGN

Mae un ar hugain o fwytai Mc Donald's ar draws Cymru'n cefnogi ymgyrch i addysgu pobl ifanc am yrru'n gyfrifol.

Heddiw mae Ron Mounsey, deiliad masnachfraint lleol McDonald's yn cyhoeddi ei gefnogaeth i'r ymgyrch sy'n addysgu pobl ifanc yng Nghymru ynghylch peryglon a chanlyniadau gyrru gwael. 
 

Sefydlwyd yr ymgyrch, gyda'r enw hynod berthnasol, 'Deadly Mates', i daclo niferoedd uchel y bobl ifanc a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru. Yn 2009, lladdwyd 24 o bobl ifanc rhwng 17 a 24 oed naill fel gyrwyr neu deithwyr neu reidwyr mewn damweiniau ffyrdd yng Nghymru - tua chwarter o'r holl farwolaethau.
 

Bydd Ron Mounsey a'i dîm o staff yn saith o'i fwytai yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Hwlffordd a Doc Penfro, yn dosbarthu mwy na 70,000 o daflenni 'Deadly Mates' i bobl ifanc sy'n ymweld â'i fwytai a'r mannau 'drive-thru' eleni. Mae'r taflenni, ynghyd â phosteri didostur a fydd yn cael eu harddangos yn y bwytai, yn atgoffa gyrwyr ifanc i feddwl yn fwy cyfrifol am yrru'n ofalus ac yn taclo problem pwysau cyfoedion, gan annog teithwyr i fynnu dweud os ydynt yn teimlo bod eu ffrindiau'n gyrru'n ddiofal.
 

Rheolir ac ariennir Deadly Mates gan Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru gyda chefnogaeth pedwar o heddluoedd Cymru, awdurdodau lleol, Llywodraeth y Cynulliad, HMCS a'r gwasanaethau argyfwng. Daw cyfranogiad Ron Mounsey yn dilyn lansiad peilot llwyddiannus ym Mangor a Chaernarfon yn 2008, ac mae'n un o un ar hugain o fwytai McDonald's ar draws Cymru sy'n cefnogi'r cynllun.
 

Dywedodd Ron Mounsey, "Dyma'r tro cyntaf i ni benderfynu fynd ati'n rhagweithiol i roi taflenni i'n cwsmeriaid ifanc ac rydym yn credu y gall ymgyrch Deadly Mates gael effaith wirioneddol. Mae'r posteri a'r taflenni'n ddidostur a bydd gyrwyr ifanc yn eu cael ar yr union adeg pan y gallant wneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn gweini bwyd i filoedd o bobl ifanc yn ein bwytai a'n 'drive-thrus' bob mis felly gobeithio y bydd ein rhan ni yn yr ymgyrch yn cynyddu'r ymwybyddiaeth o beryglon gyrru'n beryglus a chyfoedion yn tynnu sylw. Gall helpu'n uniongyrchol i leihau nifer y damweiniau a'r marwolaethau ymhlith pobl ifanc ar ffyrdd Cymru."
 

Meddai Jim Moore, Rheolwr Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, "Yn anffodus, mae llawer o bobl ifanc yn cael eu lladd bob blwyddyn mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru, naill ai'n deithwyr neu'n yrwyr. Drwy weithio gyda McDonald's, rydym yn gobeithio lleisio'r neges yn glir bod gyrru gwael yn gallu golygu canlyniadau dinistriol i'r rhai sy'n gyrru a'u teithwyr."
 

Dywedodd Swyddog Lleihau Anafiadau Traffig Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, "Mae'n wych cael gweithio gyda phartneriaid o blith y sectorau cyhoeddus a phreifat er mwyn addysgu pobl ifanc am ddiogelwch ffyrdd. Mae'r posibiliadau o gyrraedd pobl ifanc drwy McDonald's yn enfawr gan fod cynifer yn ymweld â'u bwytai, a dylem eu canmol am eu hymrwymiad i ddiogelwch eu cwsmeriaid. Byddem yn annog pob gyrrwr ifanc i ddilyn Pass Plus a chyrsiau gyrru uwch."
 

-diwedd-

 

Categori Newyddion

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page