Ar 2 Awst bydd Gan Bwyll (Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru) yn cynnal ymgyrch flaenllaw ar draws Cymru i fynd i'r afael â modurwyr sy'n goryrru ar goridor yr M4 (o'r ail bont dros afon Hafren i orllewin Cymru), yr A470 a'r A5 o'r ffin â Lloegr i Gaergybi mewn ymgais i wella diogelwch ar y ffyrdd.
Mae'r ymgyrch yn paratoi'r ffordd ar gyfer ymgyrch thema Tispol ar gyfer heddluoedd Ewrop a fydd yn canolbwyntio ar orfodi cyfyngiadau cyflymder.
Yn 2010, cafodd 95 o bobl eu lladd a 998 eu hanafu'n ddifrifol ar y ffyrdd yng Nghymru. Yn anffodus, dengys y canlyniadau fod nifer cyson o fodurwyr yn defnyddio ffyrdd lleol sy'n peryglu eu bywydau, a bywydau pobl eraill.
Bydd mwy o heddlu ar y llwybrau hyn a chaiff y cyfyngiad cyflymder ei orfodi gan gerbydau â marc Gan Bwyll.
Meddai Jim Moore, Rheolwr Partneriaeth Gan Bwyll, "Mae'r ymgyrch yn ymgais i wella diogelwch ar hyd y ffyrdd pwysig hyn. Rwy'n credu bod hon yn ffordd wych o ddangos i fodurwyr sy'n cadw at y gyfraith ein bod yn ceisio gwella diogelwch ar y ffyrdd. Ein nod yw helpu gyrwyr i fwynhau Cymru a chadw'n ddiogel, a pheidio â bod yn ystadegyn arall ar ein ffyrdd. Yn anffodus, ceir nifer o farwolaethau ac anafiadau o hyd ar hyd y prif lwybrau sydd y ffyrdd prysuraf yng Nghymru, ac rydym yn gweithio tuag at wella diogelwch ar y ffyrdd.
Mae nifer y bobl sydd wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd yng Nghymru wedi gostwng ger safleoedd lle mae camera gyda gostyngiad o 65.3% yn nifer y rhai a laddwyd neu a anafwyd ger safleoedd sefydlog a 62.1% ger safleoedd teithiol. Rydym yn lleihau cyflymderau i achub bywydau, nid i wneud arian"
Bydd yr ymgyrch yn parhau trwy gydol mis Awst. Rydym yn erfyn ar bawb i yrru'n ddiogel, gyrru yn unol ag amodau'r ffordd, a chadw at y cyfyngiadau cyflymder.