Go Safe

Information from Go Safe

Gwybodaeth gan Gan Bwyll

Gwybodaeth Gan Bwyll – Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru - ynglŷn â'r camerâu cyfartaledd cyflymder ar yr M4 yng Ngwent (ar 7 Rhagfyr 2010)

 

  • O 1 Medi 2009 tan 30 Medi 2010, rhoddwyd 6,547 o Hysbysiadau o'r Bwriad i Erlyn o ganlyniad i droseddau wedi'u recordio gan y camerâu cyfartaledd cyflymder ar yr M4 yng Ngwent.
  • Hyd yn hyn, mae 2,321 wedi talu'r ddirwy o £60 ac wedi derbyn tri phwynt cosb ar eu trwyddedau.
  • Mae 660 wedi'u cyfeirio at y llys (naill ai am yrru'n 26 mya neu fwy uwchben y cyfyngiad cyflymder a ddangosir neu am fethu ag enwi'r gyrrwr). Erbyn hyn caiff troseddau o'r fath eu trafod gan HMCS (Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi).
  • Mae 1,112 wedi cael cynnig i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder.
  • Cafodd 753 o droseddau eu diddymu (cerbydau brys, amgylchiadau lliniarol etc).
  • Mae 1,701 o erlyniadau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd*.
  • *Mae gan y Swyddfa Docynnau Ganolog chwe mis i gwblhau achos. Mae ganddynt 14 o ddiwrnodau llawn o ddiwrnod cofnodi trosedd i gyhoeddi'r Hysbysiad o'r Bwriad i Erlyn (HBE). Yna mae gan dderbynnydd yr HBE 28 o ddiwrnodau i ymateb gyda manylion y gyrrwr. Os nad y derbynnydd oedd y gyrrwr, caiff HBE newydd ei gyflwyno i'r gyrrwr a enwir ac mae gan y person hwn 28 o ddiwrnodau i ymateb. (Cofiwch mai ceir cwmni fydd llawer o'r cerbydau'n sy'n teithio ar hyd yr M4, felly caiff mwy nag un HBE eu cyflwyno er mwyn dod i wybod pwy oedd y gyrrwr). Ar ôl i yrrwr gyfaddef cyfrifoldeb am y drosedd, caiff naill ai Cynnig Amodol o Hysbysiad o Gosb Benodol ei roi neu caiff y mater ei gyfeirio at y llys. Os na chaiff gyrrwr ei enwi, caiff y mater ei gyfeirio at y llys hefyd am y drosedd o fethu â rhoi enw a chyfeiriad y gyrrwr.
  • Ers i'r camerâu ddechrau weithredu, y cyflymder uchaf sydd wedi cael ei recordio yw 95 mya.
  • Er bod mwy na 43 miliwn o gerbydau wedi teithio ar hyd y darn hwn o ffordd ers i'r camerâu ddechrau gweithredu (tua 110,000 y dydd), nid yw'r ffigur hwn ond yn ganran fach iawn o'r traffig sy'n gyrru ar ei hyd.
  • Mae'r cyflymder cyfartalog wedi gostwng i 49.4 mya ers cyflwyno'r camerâu. Caiff y camerâu eu symud ar ôl cwblhau'r gwaith ffordd a chaiff system cyfyngiad amrywiol ei gosod yn eu lle.
  • Meddai Jim Moore, rheolwr Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, “Mae'n galonogol gweld bod modurwyr, ar y cyfan, yn cydymffurfio â'r cyfyngiad cyflymder llai o 50 mya yn ystod y gwaith ffordd pwysig a gobeithiwn y bydd y cydymffurfio hwn yn para dros yr ychydig fisoedd nesaf nes cwblhau'r gwaith, er diogelwch modurwyr a'r gweithiwyr ffordd, sy'n gweithio ddydd a nos.”
     

Categori Newyddion

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page