Go Safe

Ymgyrch Diogelwch Ffyrdd yn Annog Ffermwyr Ifanc i

Ymgyrch Diogelwch Ffyrdd yn Annog Ffermwyr Ifanc i Achub Bywydau

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Sir Benfro'n lansio ymgyrch trwy eu clybiau mewn ymgais i ymgysylltu â Ffermwyr Ifanc i arafu pan fyddant yn gyrru ar hyd ffyrdd cefn gwlad yng Nghymru - ac i helpu i achub bywydau.

Fe'i cynhelir gan GanBwyll - sef Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, a nod yr ymgyrch Ffrindiau Peryg Bywyd yw addysgu pobl ifanc am beryglon a chanlyniadau gyrru gwael a phwysigrwydd pwysau gan gymheiriaid wrth gael modurwyr ifanc i yrru'n ofalus ac arafu.

Bydd CFfI Sir Benfro'n hyrwyddo'r ymgyrch Ffrindiau Peryg Bywyd trwy eu clybiau, gan ddosbarthu taflenni i yrwyr ifanc a chysylltu â'r Gwasanaeth Tân i gynnal grwpiau ffocws gyrwyr ifanc.

Meddai Dill Williams o Glwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro, "byddai'r fenter yn fanteisiol i aelodau o bob oed ond roedd yn arbennig o berthnasol i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig sy'n dibynnu cymaint ar eu ceir i deithio. Mae unrhyw beth sy'n helpu i gadw aelodau'n ddiogel yn werthfawr ac rydym yn cefnogi'r prosiect hwn ac yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â GanBwyll wrth hyrwyddo'r ymgyrch Ffrindiau Peryg Bywyd,"meddai.

Meddai Jeremy Trew, Rheolwr Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Sir Benfro, "Mae ystadegau sy'n dangos bod gan bobl ifanc risg uchel o gael damwain yn cadarnhau profiad pob diffoddwr tân. Rydym yn gweld sawl damwain sy'n cynnwys pobl ifanc, y mae gan bob un ohonynt effaith ar y bobl a anafwyd a'u teuluoedd a'u ffrindiau, felly rydym yn ymrwymedig i leihau'r gyfradd ddamweiniau. Rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o GanBwyll a'n bod yn gallu cyflwyno'r ymgyrch Ffrindiau Peryg Bywyd i bobl ifanc trwy glybiau Ffermwyr Ifanc. Mae'n ffordd ddelfrydol i ni gyrraedd ein grŵp oedran targed gydag ymagwedd newydd a blaengar."

Ychwanegodd Teresa Healy, Rheolwr Busnes a Phrif Ddadansoddwr GanBwyll - Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, "Dyfeisiwyd ymgyrch Ffrindiau Peryg Bywyd gennym ar ôl i adroddiad ddatgelu bod y tactegau sioc a ddefnyddir mewn rhai ymgyrchoedd diogelwch ffyrdd yn annhebygol o effeithio ar grŵp penodol o yrwyr ifanc rhwng 17 a 24 oed. Mae Ffrindiau Peryg Bywyd yn wahanol gan ei bod yn ceisio newid eu hymddygiad drwy dargedu eu cyfoedion i annog y gyrwyr hyn i arafu. Mae'r neges yn syml - os yw un o'ch ffrindiau yn goryrru, gall eich amddifadu o'ch dyfodol mewn amrantiad. “

"Yng Nghymru, rhwng 2008-2012, cafodd 1155 o bobl ifanc rhwng 17 a 24 oed ddamweiniau marwol neu ddifrifol. Gyda chefnogaeth Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro yn dosbarthu ein taflenni a'n posteri 'Deg Ffordd i Golli'ch Trwydded', rydym yn gobeithio y gallwn barhau i gynyddu ymwybyddiaeth o'r peryglon gyrru'n ddiofal a chymheiriaid yn tynnu sylw a helpu i leihau nifer y damweiniau a marwolaethau pobl ifanc ar ffyrdd Cymru."

Ariennir a rheolir Ffrindiau Peryg Bywyd gan Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru ac fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cymru, pedwar o Heddluoedd Cymru, 22 awdurdod lleol, GLlEM a'r gwasanaethau brys.

I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i www.ganbwyll.org.uk a gwefan yr ymgyrch, www.deadlymates.com.

 

Categori Newyddion

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page