Go Safe

Y Bartneriaeth

Y Bartneriaeth

Beth yw GanBwyll / Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru?

Nod Strategol GanBwyll yw sicrhau mai ffyrdd Cymru yw'r rhai mwyaf diogel yn Ewrop trwy leihau anafiadau ac achub bywydau. Mae'r Bartneriaeth yn gyfrifol am orfodi'r gyfraith ynghylch troseddau goryrru a golau coch ond mae mwy i leihau anafiadau na gorfodi'r gyfraith. Mae Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru'n annog modurwyr i yrru'n gyfreithiol ac yn ddiogel trwy eu haddysgu a thrwy gynnig atebion peirianyddol parhaol i wella ffyrdd.

Pwy sy'n rhan o'r Bartneriaeth?

Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys 28 partner cyfartal, yn eu plith 22 awdurdod unedol Cymru, pedwar Heddlu Cymru, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos â'r GICC a'r Gwasanaethau Tân yng Nghymru.

Sut rydych chi'n penderfynu lle i roi faniau camerâu?

Caiff camerâu diogelwch eu defnyddio i wneud ffyrdd yn fwy diogel ac i arbed bywydau, nid i wneud arian nac i ddal modurwyr ar y slei.

Bwriad y camerâu yw annog modurwyr i yrru o fewn y terfyn cyflymder ac, felly, y camerâu mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n cofnodi'r nifer LEIAF o droseddau, nid y mwyaf.

Mae pob camera yn ardal Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar lle y caniateir rhoi camerâu.

Mae sut a phryd y defnyddir y camerâu yn dibynnu ar y damweiniau a'r problemau diogelwch ffyrdd a gafwyd yn y gwahanol leoedd. Gellir defnyddio camerâu mewn mannau lle ceir hanes o ddamweiniau a / neu dystiolaeth bod pobl yn goryrru yno. Os bydd angen, gallwn weithredu ger gwaith ffordd, ysgolion ac mewn mannau y mae cymunedau'n pryderu amdanynt ledled Cymru.

Rwy'n poeni am oryrru yn fy ardal i. Sut allwch chi fy helpu i a'm cymuned?

Os oes gennych bryderon am oryrru yn eich cymuned chi, ewch i'r adran chwilio am gamerâu ar y wefan hon i weld a ydym eisoes yn dod i'ch cymuned. Os na chymerir camau i orfodi'r gyfraith yn eich ardal chi ar hyn o bryd, gallwch anfon eich pryderon gydag unrhyw fanylion perthnasol fel y terfyn cyflymder, enw'r ffordd a'r nodweddion arni (ysgol, ffordd gul, croesfan belican) i Gydgysylltydd yr Heddlu perthnasol (yng Nghanolbarth a De Cymru) neu i'ch Swyddog Lleihau Cyflymder (Gogledd Cymru). Byddant yn cysylltu â chi i roi rhagor o fanylion. Mae'r adran cysylltu â ni yn dweud pwy i gysylltu â nhw yn eich ardal chi.

Pwy sy'n pennu'r terfyn cyflymder?

Yr Awdurdod Priffyrdd sy'n gyfrifol am y darn hwnnw o'r ffordd, h.y. yr Awdurdod Unedol (Cyngor) neu Lywodraeth Cymru, sy'n pennu terfynau cyflymder. Bydd yr Awdurdod Priffyrdd yn ystyried natur yr heol a llawer o ffactorau eraill a nodir yng Nghanllawiau'r Adran Drafnidiaeth ar bennu terfynau cyflymder lleol. Ceir rhagor o wybodaeth yn:

http://wales.gov.uk/docs/det/publications/091105speedlimitguidelinesen.pdf

Pa mor llwyddiannus fu'r Bartneriaeth hyd yma?

Mae Safleoedd Camerâu Diogelwch, a geir ar lai na 2% o rwydwaith ffyrdd Cymru, wedi cyfrannu at y gostyngiadau isod:

  • Ar gyfer safleoedd sefydlog a symudol craidd, mae cymharu'r ffigur gwaelodlin â data anafiadau 2008-2010 ar draws Cymru yn dangos lleihad o 71.49%* yn nifer y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol (LlAD). Mae'r ffigur gwaelodlin yn cyfateb i anafiadau LlAD mewn cyfnod 3 blynedd cyn cyflwyno'r safle

 

* Ffigurau cywir 2011 yw’r rhain 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Adroddiad CLlLC – Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru

 

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page