Go Safe

Rhyddid Gwybodaeth

Rhyddid Gwybodaeth

A ninnau'n bartneriaeth sy'n cynnwys sawl corff cyhoeddus, rydym yn aml yn cael ceisiadau am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000). Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf i'w gweld isod.


 

Beth mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei wneud?

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl cyffredinol i chi ofyn am wybodaeth a gedwir gan y Bartneriaeth a'i chael. Ni fydd rhai mathau o wybodaeth ar gael gan eu bod yn cael eu heithrio rhag eu cyhoeddi. Mae hefyd yn gosod nifer o ymrwymiadau ar y Bartneriaeth. Mae'r Bartneriaeth yn ceisio bod yn agored a theg ym mhopeth a wnawn. Mae gwybodaeth sy'n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn eiddo i'r cyhoedd. Fodd bynnag, ni ddylai gwybodaeth ynglŷn â data personol na gwybodaeth sy'n gysylltiedig â throsedd goryrru fod ar gael i'r byd a byddai ei chyhoeddi'n torri deddfwriaeth arall e.e. Deddf Diogelu Data 1998. Os hoffech wybod pa wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi, ewch i'n cynllun cyhoeddiadau.

Sut allaf i wneud cais am wybodaeth?

Os nad yw'r wybodaeth y dymunwch ei chael ar gael ar y wefan hon, gallwch wneud cais ysgrifenedig am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Ewch i'r adran cysylltu â ni i weld sut i wneud cais.

Ymhen faint o amser ar ôl gwneud y cais y caf i'r wybodaeth?

Ar ôl cael eich cais (a'ch tâl os oes angen) byddwn yn dechrau casglu'r wybodaeth y gwnaed cais amdani ac ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith os oes modd neu roi gwybod i chi os bydd rhyw oedi.

A oes angen talu am yr wybodaeth?

Os oes ffi, caiff ei phennu yn ôl canllawiau ar lefel Brydeinig. Fe ddywedwn wrthych faint yw'r ffi cyn symud ymlaen. Ar hyn o bryd, o dan y canllawiau hyn, cawn godi tâl am gost casglu a pharatoi'r wybodaeth fel yr amlinellir yn y Terfyn a Ffioedd Priodol hyd at uchafswm o £450.

Pa fathau o wybodaeth ydych chi'n eu cyhoeddi?

Rydym yn cyhoeddi nifer o wahanol fathau o wybodaeth ac mae'r rhan fwyaf ohonynt ar gael ar ein gwefan. Mae manylion yr wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi i'w gweld yn ein cynllun cyhoeddiadau.

Beth ddylwn i ei wneud os credaf na chefais yr holl wybodaeth y gofynnais amdani?

Gallwch apelio'n uniongyrchol atom ni trwy gysylltu â ni a gallwn adolygu'r achos. Os na fyddwch yn fodlon â'r ymateb, gallwch apelio'n uniongyrchol at y Comisiynydd Gwybodaeth a bydd ei staff yn edrych i mewn i'r mater ar eich rhan.

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page