Go Safe

Rhyddid Gwybodaeth

Rhyddid Gwybodaeth

Fel partneriaeth sy'n cynnwys sawl corff cyhoeddus, rydym yn aml yn cael ceisiadau am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Gweler mwy o wybodaeth am y Ddeddf a Gwybodaeth isod.
 


Beth yw diben Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG)?

Mae'r DRhG yn rhoi hawl cyffredinol i chi ofyn am wybodaeth sydd gan awdurdod cyhoeddus, er nad yw mathau penodol o wybodaeth ar gael oherwydd eu bod wedi'u heithrio rhag cael eu cyhoeddi. Mae hefyd yn rhoi sawl rhwymedigaeth ar yr awdurdod cyhoeddus. Nod y bartneriaeth yw hyrwyddo tryloywder a thegwch ym mhob peth mae'n ei wneud.

Sut gallaf wneud cais am wybodaeth?

Os nad yw'r wybodaeth rydych am ei chael eisoes ar gael ar y wefan hon, gallwch gyflwyno cais ysgrifenedig am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Gweler yr adran cysylltu â ni am sut i wneud cais.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd o wneud cais i dderbyn yr wybodaeth?

Ar ôl i ni dderbyn eich cais, byddwn yn dechrau casglu'r wybodaeth y gwneud cais amdani ac ymateb o fewn 20 niwrnod gwaith lle bynnag y bo'n bosib neu byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw oedi.

Oes rhaid talu ffi am yr wybodaeth y gwnaed cais amdani?

Lle bo'n rhaid talu ffi, caiff ei chyfrifo yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y swm cyn i ni barhau. Ar hyn o bryd, o dan y canllawiau cenedlaethol, mae gennym hawl i godi tâl am gost casglu a llunio'r wybodaeth fel a amlinellir yn y Cyfyngiad a Ffioedd Addas hyd at uchafswm o £450.

Pa fath o wybodaeth rydych yn ei rhyddhau?

Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth eang o wybodaeth. Mae'r rhan fwyaf ohoni ar gael ar ein gwefan.

Beth wna i os nad wyf yn tybio fy mod wedi derbyn yr holl wybodaeth y gofynnais amdani?

Gallwch apelio i'r awdurdod cyhoeddus a ryddhaodd yr wybodaeth a gellir adolygu'r achos. Os ydych yn anfodlon ar yr ymateb, gallwch apelio'n uniongyrchol at y Comisiynydd Gwybodaeth y bydd ei staff yn ymdrin â'r mater ar eich rhan.
 

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page