Mae llawer o bobl yn gofyn y math o gwestiynau a welwch isod i ni. Coel gwlad yw llawer ohonyn nhw ac rydym ni wedi nodi'r ffeithiau.
Chwedl: Ffordd hawdd i'r heddlu wneud arian yw camerâu diogelwch.
Ffaith: Diben camerâu diogelwch yw achub bywydau a gwneud y ffyrdd yn fwy diogel – nid gwneud arian.
Nid yw'r heddlu na phartneriaid eraill y Bartneriaeth Lleihau Anafiadau yn gwneud elw o ddirwyon goryrru a mynd trwy golau coch. Mae holl arian y dirwyon yn mynd i'r Trysorlys. Grant gan Lywodraeth Cymru sy'n ariannu'r Bartneriaeth Lleihau Anafiadau. Mae hyn yn golygu nad oes gan bartneriaethau lleihau anafiadau reswm dros roi camerâu yn unman ond lle mae angen amdanynt i wneud y ffyrdd yn fwy diogel.
Mae'r holl arian a gawn yn cael ei fuddsoddi er mwyn gwneud y ffyrdd yn ddiogelach. Gwnawn hyn trwy Addysg, Gwaith Peirianyddol a Gorfodi'r Gyfraith lle mae mwyaf o angen gwneud hynny er mwyn gostwng cyflymder, addysgu modurwyr am beryglon goryrru a mynd trwy olau coch, a chynnal mentrau diogelwch ar y ffordd.
Chwedl: Caiff camerâu diogelwch eu cuddio er mwyn dal modurwyr ar y slei ac fe gânt eu gosod lle byddant yn dal y nifer fwyaf o bobl yn goryrru.
Ffaith: Mae partneriaethau lleihau anafiadau yn gosod camerâu cyflymder a chamerâu golau coch lle mae pobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu neu lle cofnodwyd bod pobl yn goryrru.
Nid ydym yn cuddio camerâu diogelwch er mwyn dal modurwyr ar y slei na'u gosod lle byddant yn dal y nifer fwyaf o bobl yn goryrru. Bwriad y camerâu yw annog modurwyr i yrru o fewn y terfyn cyflymder ac felly, y camerâu mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n cofnodi'r nifer LEIAF o droseddau, nid y mwyaf.
Mae arwyddion yn rhybuddio am gamerâu ar ffyrdd lle mae camerâu diogelwch yn gweithio ac mae'r camerâu sefydlog a'r unedau symudol wedi'u marcio'n glir. Rydym yn cyhoeddi ar ein gwefan lle mae camerâu symudol a rhai sefydlog.
Fodd bynnag, rydym yn gofyn i bobl yrru o fewn y cyfyngiad cyflymder bob amser, nid dim ond lle mae 'na gamerâu.
Cewch ragor o wybodaeth yn yr adran Chwilio am Gamerâu
Chwedl: Yr heddlu sy'n arwain y partneriaethau lleihau anafiadau ac felly mae swyddogion yr heddlu'n gwastraffu eu hamser yn ceisio dal gyrwyr diniwed yn lle ymchwilio i droseddau go iawn.
Ffaith: Nid yw'r heddlu yn arwain y partneriaethau lleihau anafiadau. Yn hytrach, mae'r partneriaethau'n cynnwys partneriaid cyfartal o'r heddlu, yr awdurdodau lleol, llysoedd ynadon a Llywodraeth Cymru.
Gwneir gwaith Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru gan weithwyr heddlu y mae'r Bartneriaeth yn eu cyflogi ac yn talu amdanynt. Felly, nid yw gwaith yr heddlu'n cael ei esgeuluso er mwyn gwneud gwaith gorfodi cyflymder ond, mewn gwirionedd, mae'n rhoi rhagor o amser i'r heddlu ganolbwyntio ar waith arall ym maes atal a chanfod troseddau.
Cofiwch bod goryrru neu fynd trwy olau coch yn droseddau sy'n lladd ac yn anafu miloedd o bobl bob blwyddyn.
Chwedl: Dydi camerâu ddim yn cael eu defnyddio ar y ffyrdd mwyaf peryglus.
Ffaith: Mae Partneriaethau Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru yn gosod camerâu cyflymder a chamerâu golau coch lle mae pobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu neu lle cofnodwyd bod pobl yn goryrru. Gallwn weithredu ger gwaith ffordd, ysgolion ac mewn mannau y mae cymunedau'n pryderu amdanynt ledled Cymru.
Chwedl: Nid yw'r camerâu'n boblogaidd.
Ffaith: Mae lefel cefnogaeth y cyhoedd i gamerâu diogelwch yng Nghymru yn uchel. Ceir rhagor o wybodaeth yn y Cwestiynau Cyffredin o dan Barn y Cyhoedd.
Chwedl: Nid yw cyflymder yn ffactor o bwys mewn gwrthdrawiadau traffig.
Ffaith: Mae llawer iawn o dystiolaeth i ddangos bod cysylltiad rhwng cyflymder ac amlder a difrifoldeb gwrthdrawiadau ar y ffyrdd. Dangosodd adroddiad yn 2000, The Effects of Drivers' Speed on the Frequency of Road Accidents (Taylor, Lynam & Baruya), yn bendant bod cysylltiad rhwng cyflymder ac amlder damweiniau. Wrth i gyflymder gynyddu, mae'r risg y ceir damwain yn cynyddu hefyd. Mae'r canfyddiadau yn dangos pa mor bwysig ydyw i yrwyr gael amser i ymateb i'r annisgwyl. Wrth deithio'n gyflymach, mae llai o amser i ymateb.
Po gyflymaf y mae rhywbeth yn symud, mwyaf yw'r grym os bydd gwrthdrawiad. Po fwyaf yw'r grym, mwyaf tebygol ydyw y bydd y peth sy'n symud a'r peth y mae'n taro yn ei erbyn yn cael eu difrodi neu hyd yn oed eu malu'n llwyr. Mae hynny'n rheol wyddonol sylfaenol
O ran cerbyd sy'n symud ac sy'n taro yn erbyn rhywbeth, po fwyaf y cyflymder, mwyaf o ddifrod a wneir i'r cerbyd a'r hyn y mae'n taro yn ei erbyn a mwyaf yw'r perygl y caiff pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.
Mae meddygaeth wedi symud ymlaen yn fawr iawn o ran achub bywydau pobl sy'n cael eu hanafu'n ddifrifol. Gall meddygon drwsio esgyrn sydd wedi torri, ac atal gwaedu, a chymryd camau i helpu pobl sy'n cael trafferth i anadlu. Serch hynny, nid oes llawer y gall meddygon ei wneud i wella llawer o anafiadau i'r pen na niwed mawr i organau'r corff a achosir gan wrthdrawiad grymus. Peidio â chael yr anafiadau hyn yw'r unig ateb.