Go Safe

Astudiaethau Achos

Astudiaethau Achos

Mae'r Bartneriaeth yn rhan o nifer o fentrau diogelwch ffyrdd mewn cymunedau lleol. Rydym yn cydweithio'n agos â Swyddogion Diogelwch Ffyrdd ac yn helpu trwy ymweld ag ysgolion, digwyddiadau cymunedol, cyfarfodydd cyngor, clybiau ieuenctid ac unrhyw achlysuron eraill y mae'r cyhoedd yn gofyn i ni fynd iddynt.

Dim ond un agwedd ar ein gwaith yw gorfodi'r gyfraith. Os gwelwn fod pryder am ddiogelwch ar y ffordd oherwydd goryrru mewn ardal, rydym yn ystyried beth yw'r ffordd orau o ddatrys y broblem yn y tymor hir. Gall hyn gynnwys defnyddio addysg a dulliau peirianyddol.

Yn y rhan hon o'r wefan, fe welwch enghreifftiau o'r hyn yr ydym yn ei wneud, sut y gallwn ni helpu ac, yn bwysicaf oll, yr hyn y gallwn ei gyflawni.

Os ydych yn poeni am oryrru yn eich ardal chi, ewch i'r adran Chwilio am Gamerâu i weld a oes camera yn yr ardal eisoes. Gallwch gysylltu â ni i ofyn i ni gymryd camau gorfodi yn yr ardal.

Mae gennym ddwy enghraifft o Astudiaethau Achos. Byddwn yn diweddaru'r rhain yn rheolaidd ond os hoffech wybod beth sy'n digwydd yn eich ardal, gallwch fynd i'r adran Chwilio am Gamerâu neu gysylltu â ni i holi.

Astudiaethau Achos - Ynys Môn Maint: [180 KB] Math o Ffeil: [.doc]
Astudiaethau Achos - Wrecsam Maint: [82 KB] Math o Ffeil: [.doc]
Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page