Rwy'n meddwl bod camera diogelwch wedi fy nal yn goryrru neu'n mynd trwy olau coch – beth sy'n digwydd nesaf?
Cyn pen 14 diwrnod clir ar ôl i gamera gofnodi trosedd honedig, anfonir hysbysiad o'r bwriad i erlyn (NIP) at geidwad cofrestredig y cerbyd. Bydd yr hysbysiad hwn yn cynnwys dyddiad, amser a lleoliad y trosedd honedig.
Daw ffurflen wybodaeth am y gyrrwr gyda'r hysbysiad. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar geidwad cofrestredig y cerbyd i ddychwelyd y ffurflen hon gan ddweud pwy oedd y gyrrwr pan ddigwyddodd y trosedd honedig. Os nad yw'r cyflymder honedig yn fwy na 26mya dros y terfyn cyflymder, fel rheol bydd y Bartneriaeth Lleihau Anafiadau yn gwneud cynnig amodol o gosb benodedig. Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis derbyn y gosb neu gael gwrandawiad gerbron llys. Mae'n rhaid i lys ddelio ag achosion lle mae'r cyflymder honedig yn fwy na 26mya dros y terfyn cyflymder – ni ellir gwneud cynnig amodol o gosb benodedig.
Os nad chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd, bydd angen cyhoeddi hysbysiad newydd o'r bwriad i erlyn yn eich enw chi. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar y ceidwad cofrestredig o dan adran 172 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988 i roi gwybod pwy oedd y gyrrwr a bydd angen iddo/iddi lenwi ffurflen wybodaeth am y gyrrwr sy'n dod gyda'r hysbysiad o'r bwriad i erlyn.
Nôl i'r brig
Am ba hyd fydd y pwyntiau'n aros ar fy nhrwydded?
Mae pwyntiau cosb yn ddilys am gyfnod o dair blynedd ond ni ellir eu tynnu oddi ar eich trwydded nes bod pedair blynedd drosodd.
Sut mae talu?
Rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau a nodir yn y llythyr a gewch.
A gaf i dalu mwy o ddirwy a pheidio â chael pwyntiau ar fy nhrwydded?
Na. Yr unig ddau ddewis yw'r Cynnig Amodol o Gosb Benodedig neu gael eich erlyn. Pennir lefel y gosb ariannol a'r pwyntiau gan ddeddfwriaeth. Cewch ddewis derbyn y Cynnig Amodol o Gosb Benodedig yn gyfan neu ei wrthod.
Fe wnaeth cerbyd a oedd yn fy mhasio/teithio i'r cyfeiriad arall achosi i gamera sefydlog dynnu llun ond rwy'n meddwl y bydd fy ngherbyd i yn y llun hefyd. A gaf i docyn goryrru?
Na. Rydym ni'n gallu dweud pa gerbyd a achosodd i'r camera weithio. Mae'r camerâu diogelwch yn tynnu dau lun a hanner eiliad rhyngddynt ac mae llinellau gwynion ar yr heol fel y gallwn weld pa gerbyd sydd wedi teithio bellaf ac felly sy'n teithio gyflymaf.
Nôl i'r brig
A gaf i weld tystiolaeth ffotograffig?
Cewch ofyn am dystiolaeth ffotograffig. Efallai y bydd raid i chi fynd i'r man lle mae'r mater yn cael ei brosesu.
Nid fi oedd yn gyrru'r cerbyd pan ddigwyddodd y trosedd honedig. Beth ddylwn i ei wneud?
Peidiwch â rhoi'r ffurflen i'r gyrrwr. Mae angen i chi lenwi rhan 2 o'r ffurflen wybodaeth am y gyrrwr gan nodi enw a chyfeiriad y sawl oedd yn gyrru'r cerbyd pan ddigwyddodd y trosedd honedig a'i hanfon at y Bartneriaeth Camerâu Diogelwch. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch o dan adran 172 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988 i roi'r wybodaeth hon. Bydd y gyrrwr yn cael hysbysiad o'r bwriad i erlyn yn ei (h)enw ei hunan wedyn.
Roeddwn i'n gyrru cerbyd cwmni
Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar geidwad cofrestredig y cerbyd o dan adran 172 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988 i ddweud pwy oedd yn gyrru pan ddigwyddodd y trosedd honedig. Mae hyn yn wir am gwmni hefyd, fel ceidwad cofrestredig y cerbyd. Bydd angen i chi lenwi adran 3 o'r ffurflen wybodaeth am y gyrrwr. Rydym yn eich cynghori'n gryf i gadw cofnodion o'r defnydd a wnewch o gerbydau sy'n eiddo i gwmni.
Rwyf wedi gwerthu'r cerbyd
Mae angen i chi lenwi rhan 4 o'r ffurflen wybodaeth am y gyrrwr gan nodi enw a chyfeiriad y prynwr fel y gellir anfon hysbysiad o'r bwriad i erlyn yn ei (h)enw ef/hi.
Nôl i'r brig
Mae gennyf drwydded yrru dramor/drwydded nad yw’n ddilys ym Mhrydain Fawr
Efallai y byddwch yn dal i allu cydymffurfio â Chynnig Amodol. Os ydych yn bodloni’r gofynion, caiff y pwyntiau cosb ar gyfer y drosedd eu rhoi ar eich trwydded/cofnod. Cyfeiriwch at eich Cynnig Amodol am ragor o fanylion a chyfarwyddiadau.
Wn i ddim pwy oedd yn gyrru
O dan Adran 172 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988, mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar geidwad cofrestredig y cerbyd i roi enw a chyfeiriad gyrrwr y cerbyd pan ddigwyddodd y trosedd honedig. Os na chaiff y ffurflen wybodaeth am y gyrrwr ei llenwi a'i dychwelyd, gall y ceidwad cofrestredig gael ei (h)erlyn am beidio â rhoi'r wybodaeth. Rydym yn eich cynghori'n gryf i gadw cofnod o pwy sy'n gyrru'ch cerbyd bob amser.
Roedd fy ngherbyd wedi'i ddwyn
Bydd angen i chi ysgrifennu at y Bartneriaeth Lleihau Anafiadau yn rhoi'r cyfeirnod trosedd a roddodd yr heddlu i chi pan wnaethoch chi ddweud wrthynt bod y cerbyd wedi'i ddwyn. Pan gaiff y manylion hyn eu cadarnhau, caiff y mater yn eich erbyn chi ei dynnu yn ôl.
Beth fydd yn digwydd os anwybyddaf hysbysiad o'r bwriad i erlyn?
Os na fyddwch yn ymateb cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn, gellir eich erlyn am beidio â rhoi gwybodaeth.
Nôl i'r brig
Rwy'n meddwl bod camgymeriad ar yr hysbysiad o'r bwriad i erlyn
Nid yw'r ffaith fod camgymeriad ar hysbysiad o'r bwriad i erlyn yn golygu, o anghenraid, nad yw'n ddilys. Os credwch fod camgymeriad ar hysbysiad a gawsoch, dylech gysylltu â'r Bartneriaeth Lleihau Anafiadau ar unwaith.
Rwy'n dymuno derbyn y cynnig amodol o gosb benodedig ac mae gen i drwydded cerdyn-llun. Beth ddylwn i ei anfon?
Pan fyddwch yn derbyn y cynnig amodol o gosb benodedig, mae'n rhaid i chi anfon eich taliad a'ch trwydded yrru i'r llys ynadon priodol. Os oes gennych drwydded cerdyn-llun, mae'n rhaid i chi anfon y cerdyn-llun a'r darn papur o'r drwydded.
Rwy'n methu dod o hyd i fy nhrwydded yrru. A gaf i anfon y taliad yn unig?
Na. Mae'n rhaid i chi anfon eich trwydded yrru a'ch taliad gyda'i gilydd. Os ydych wedi colli'ch trwydded yrru, mae'n rhaid i chi gael un newydd gan y DVLA ar unwaith (cewch ffurflen o'r swyddfa bost). Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi ymateb i'r cynnig amodol o gosb benodedig cyn pen 28 diwrnod, ond dylech ysgrifennu at y Bartneriaeth Lleihau Anafiadau a gofyn iddynt ystyried gohirio'r broses.
A gaf i dalu mewn rhandaliadau?
Nid oes trefniadau ar gyfer talu'r gosb benodedig mewn rhandaliadau. Os dymunwch dalu mewn rhandaliadau, bydd rhaid cyfeirio'r mater i lys.
Nôl i'r brig
Am ba hyd fydd y pwyntiau cosb yn aros ar fy nhrwydded yrru?
Os cewch 12 neu fwy o bwyntiau cosb mewn cyfnod o dair blynedd, byddwch yn wynebu cael eich gwahardd rhag gyrru o dan y system 'pentyrru pwyntiau'. Mae pwyntiau cosb am droseddau goryrru a golau coch yn ddilys am dair blynedd o ddyddiad y trosedd ond mae'n rhaid iddynt aros ar eich trwydded am bedair blynedd. Os hoffech fwy o wybodaeth am ardystiadau ar drwyddedau gyrru, gallwch ffonio'r DVLA ar 03007906819 neu fynd i www.dvla.gov.uk
A gaf i gymryd dirwy uwch a dim pwyntiau cosb?
Na. Os cewch gosb benodedig, mae'r ddirwy a'r pwyntiau'n cael eu pennu gan y Llywodraeth ac felly ni ellir eu newid.
A gaf i apelio?
Cewch. Mae'n rhaid i chi wneud hyn ar bapur. Caiff pob achos ei benderfynu yn ôl ei haeddiant ei hunan. Os caiff eich apêl ei gwrthod gan yr uned camerâu diogelwch, mae'n rhaid i unrhyw apeliadau pellach gael eu gosod gerbron llys. Sylwch: Nid yw 'Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y terfyn cyflymder', 'Dw i ddim yn nabod yr ardal' na 'Roedd yr heol yn glir' yn cael eu derbyn fel rhesymau dilys dros yrru'n gyflymach nag a ganiateir. Os ydych yn bwriadu apelio, mae'r gyfraith yn dal i fynnu eich bod yn anfon y ffurflen wybodaeth am y gyrrwr atom cyn pen 28 diwrnod. Ni ddylech ddal y ffurflen hon yn ôl tra byddwch yn paratoi'ch apêl neu'n aros am benderfyniad.
Beth os penderfynaf fynd i'r llys?
Mae gennych hawl i herio'r trosedd honedig yn y llys. Os penderfynir eich bod yn euog, yr ynadon fydd yn penderfynu ar y gosb. Gallai'r gosb fod yn uwch na'r gosb benodedig a gallai fod raid i chi dalu costau'r llys hefyd.
Nôl i'r brig
Mae gennyf drwydded lân. Ydi hyn yn cael ei ystyried?
Na. Nid yw'r ffaith fod gennych drwydded yrru lân yn gwneud goryrru na mynd trwy olau coch yn llai peryglus na chanlyniadau gwrthdrawiad yn llai trist. Felly, nid yw'r ffaith fod gennych drwydded lân yn golygu y cewch eich esgusodi.
Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y terfyn cyflymder
Nid yw hyn yn esgus dilys. Er eich diogelwch chi ac er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, mae'n rhaid eich bod yn gallu gyrru'ch cerbyd yn ddiogel, ymateb i beryglon posibl ac ufuddhau i arwyddion traffig gorfodol bob amser. Nid yw'r ffaith eich bod wedi mynd dros y terfyn cyflymder yn anfwriadol yn golygu bod goryrru yn dderbyniol na bod canlyniadau gwrthdrawiad yn llai trist. Cewch ragor o wybodaeth am derfynau cyflymder a phellter stopio yn Mynnwch wybod eich terfynau.
Sut mae gwybod a oes terfyn o 30mya mewn ardal?
Mewn ardal 30mya, bydd NAILL AI system o oleuadau stryd neu arwyddion terfyn cyflymder 30mya. Mae'r rheoliadau'n gwahardd rhoi arwyddion ailadrodd 30mya ar ffyrdd lle ceir cyfyngiad o 30mya a system o oleuadau stryd. Os hoffech ragor o wybodaeth, cewch weld Rheolau'r Ffordd Fawr trwy fynd i www.direct.gov.uk/cy/TravelAndTransport/Highwaycode/index.htm
Welais i ddim arwyddion ailadrodd yn dweud bod terfyn o 30mya.
Ni chaiff yr esgus hwn ei dderbyn. Fel y nodir yn Rheolau'r Ffordd Fawr, mae cyfyngiad cyflymder o 30mya ar ffyrdd sydd â goleuadau stryd yn y DU os nad oes arwyddion yn dangos cyfyngiad uwch neu is.
Nôl i'r brig
Ble’r oedd arwyddion y camera? Ni welais mohonynt.
Gall arwyddion camerâu diogelwch gael eu harddangos ar ffyrdd sy’n arwain at fannau lle mae camerâu’n gweithredu. Nid yw hyn yn ofyniad cyfreithiol i ddynodi ein safleoedd gydag arwyddion camerâu. Mae’r holl arwyddion ar gyfer ardal Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru’n cydymffurfio ag arweiniad Llywodraeth Cymru (LlC) (gweler y ddogfen ar waelod y dudalen). Sylwer, os nad oes arwydd am gamera, nid yw hyn yn annilysu’r drosedd.
Ni allwn stopio'n ddiogel wrth olau coch gan fod y cerbyd y tu ôl i mi'n rhy agos ac y gallwn fod wedi achosi damwain.
Bydd y dystiolaeth ffotograffig a gymerwyd gan y camera pan ddigwyddodd y trosedd honedig yn penderfynu a fyddwn yn symud ymlaen â'r broses o roi cosb benodedig ai peidio yn y sefyllfa hon. Caiff pob achos ei benderfynu yn ôl ei haeddiant ei hunan. Os teimlwch bod gennych reswm dros apelio, mae'n rhaid i chi ysgrifennu at y Bartneriaethh Lleihau Anafiadau ar unwaith.
Cofiwch, gallai rhywun gael ei ladd os ewch trwy olau coch.
Os caf docyn a pheidio â llofnodi'r papurau, ni ellir fy erlyn.
O dan Adran 172 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988, mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar geidwad cofrestredig y cerbyd i roi enw a chyfeiriad gyrrwr y cerbyd pan ddigwyddodd y trosedd honedig. Er mwyn dilysu'r wybodaeth a roddwyd gennych, mae angen i chi lofnodi'r ffurflen. Os na lofnodwch y ffurflen, ni chyfrifir eich bod wedi rhoi'r wybodaeth a gallech gael eich erlyn am beidio â rhoi'r wybodaeth. Gallai hyn olygu bod y llys yn rhoi cosb uwch i chi (yn cynnwys pwyntiau ar eich trwydded) nag y caech trwy dderbyn cosb benodedig.
Os byddaf yn goryrru neu'n mynd trwy olau coch yn y nos, ni fydd y camerâu diogelwch yn gallu fy nal.
Mae camerâu diogelwch sefydlog a symudol yn gallu gweithio 24 awr y dydd. Mae llawer o yrwyr o dan gamargraff ei bod yn fwy diogel goryrru yn y nos pan fydd y ffyrdd yn dawelach. Ond mae nifer yr anafiadau yn dyblu yn y tywyllwch gan fod cerbydau'n teithio'n gyflymach, bod mwy o yrwyr wedi yfed alcohol, eu bod wedi blino a'i bod yn anodd gweld.
Onid yw hyn yn tarfu ar fy hawliau dynol?
O dan Adran 172 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988, mae'n ofynnol i geidwad cofrestredig y cerbyd roi gwybod pwy oedd yn gyrru pan ddigwyddodd y trosedd honedig. Mae'n drosedd peidio â rhoi'r wybodaeth hon os na all y ceidwad ddangos na wyddai ac na allai fod wedi canfod trwy ddiwydrwydd rhesymol pwy oedd yn gyrru. Defnyddir y darpariaethau hyn ar gyfer troseddau traffig y ffyrdd yn cynnwys y rhai a ganfyddir gan gamerâu diogelwch.
Nid yw'r sefyllfa hon wedi newid ers cyflwyno'r Ddeddf Hawliau Dynol, a ddaeth i rym ar 2 Hydref 2000. O ran hysbysiad o'r bwriad i erlyn (NIP), nid yw'r ddeddf yn effeithio arnoch pan fyddwch yn dychwelyd y dogfennau hyn. Mae deddfwriaeth sylfaenol yn mynnu eich bod yn rhoi'r wybodaeth y gofynnir amdani os gallwch. Os nad ymatebwch i gais am fanylion y gyrrwr, gallech gael eich erlyn.
Mae Llysoedd Prydain wedi deddfu nad yw gofyn pwy oedd gyrrwr cerbyd modur pan ddigwyddodd trosedd honedig yn tresmasu ar hawliau dynol. Nid yw ymateb i gais o'r fath yn gyfystyr â chyfaddef i drosedd honedig o oryrru. Cadarnhawyd y penderfyniad hwn mewn achos a wrandawyd yn y Llys Iawnderau Dynol 2007.
Nôl i'r brig