Go Safe

Camerâu Diogelwch Sefydlog

Camerâu Diogelwch Sefydlog

Mae gan GanBwyll 152 o safleoedd camerâu sefydlog ledled Cymru i ganfod cerbydau sy'n gyrru ar gyflymder uwch nag a ganiateir ar y ffyrdd. Rhoddir y camerâu hyn mewn mannau sydd â hanes o wrthdrawiadau traffig a achoswyd o leiaf yn rhannol gan gyflymder neu lle cafwyd anafiadau difrifol.

Yn ogystal, mae gennym 46 o gamerâu golau coch Gatso, sy'n canfod cerbydau sy'n mynd trwy signalau traffig pan fydd y golau'n goch a pump gamera digidol RedSpeed “speed on green”, sy'n canfod troseddau golau coch a throseddau goryrru sy'n digwydd pan fydd traffig yn mynd trwy'r signalau pan fydd y golau'n wyrdd.

static camera

Camerâu 'Gatso' yw'r camerâu cyflymder sefydlog mwyaf cyffredin yng Nghymru. Cawsant eu dyfeisio gan Maurice Gatsonides, cyn-yrrwr ralïau a rasiwr ceir o'r Iseldiroedd. Mae'r camerâu hyn wedi'u paentio'n felyn â phaent adlewyrchol ac felly gellir eu nabod yn hawdd.

Mae marciau gwirio eilaidd wedi'u paentio ar wyneb yr heol ymhen pellter penodol o safle pob camera cyflymder sefydlog. Gellir cadarnhau cyflymder y cerbyd trwy gyfrif faint o farciau y mae'r cerbyd wedi mynd drostynt rhwng y llun cyntaf a'r ail.

Rydym hefyd yn defnyddio Camerâu Cyflymder Truvelo a Chamerâu Cyflymder Cyfartalog SPECS.

Tystysgrifau Calibradu

Mae'r camerâu diogelwch a'r offer cysylltiedig wedi bod trwy brofion llym gan adran wyddonol y Swyddfa Gartref ac maent wedi cael Cymeradwyaeth Math y Swyddfa Gartref. Er mwyn cael y gymeradwyaeth hon, mae'n rhaid i'r offer gael ei galibradu, ei ddefnyddio gan bobl a hyfforddwyd yn arbennig a'i ddefnyddio yn unol â gofynion yn gwneuthurwr. Caiff y sawl sy'n defnyddio'r offer eu hyfforddi i'w ddefnyddio'n iawn (gellir dangos tystiolaeth o'r trefniadau hyfforddi yn y llys) a chaiff yr offer ei galibradu.

Mae'r tystysgrifau Graddnodi ar gael yma
 

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page