Mae GanBwyll yn defnyddio camerâu cyflymder a chamerâu golau coch sefydlog, camerâu gorfodi symudol (cyflymder yn unig), a chamerâu cyflymder cyfartalog sefydlog. Defnyddir cyfanswm o saith gwahanol ddyfais:
- Camera Cyflymder Sefydlog Gatso (awto-ganfod ffilm wlyb)
- Camera Golau Coch Sefydlog Gatso (awto-ganfod ffilm wlyb)
- Camera Cyflymder Sefydlog Gatso (awto-ganfod digidol)
- Camera Sefydlog RedSpeed Speed on Green (awto-ganfod digidol)
- Camera Cyflymder Sefydlog Truvelo (awto-ganfod ffilm wlyb)
- Camera Cyflymder Symudol LTI 20.20 TS/M SpeedScope (canfod dynol VHS)
- Camera Cyflymder Symudol LTI 20.20 UltraLyte 1000 (canfod dynol DVD)
Cymeradwyaeth Math y Swyddfa Gartref: Mae'r dyfeisiau hyn i gyd wedi cael Cymeradwyaeth Math gan y Swyddfa Gartref am fod yn gywir, yn ddibynadwy ac am eu bod yn gallu rhoi tystiolaeth dderbyniadwy ar gyfer erlyn. Dim ond dyfeisiau gorfodi sydd wedi'u gwneud a'u cyflenwi mewn ffordd sy'n bodloni'r meini prawf caeth a bennir gan Gangen Datblygu Gwyddonol yr Heddlu yn y Swyddfa Gartref (PSDB) ac y bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan yr heddlu sy'n cael Cymeradwyaeth Math y Swyddfa Gartref.
Mae'r Tystysgrifau Calibradu ar gyfer yr offer a ddefnyddiwyd i'w gweld yma