Go Safe

Gwybodaeth am Dystysgrifau Camerâu

Gwybodaeth am Dystysgrifau Camerâu

Mae'r holl fathau o offer camera a ddefnyddir gan Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru i orfodi'r gyfraith ynghylch cyflymder neu oleuadau coch wedi cael cymeradwyaeth math y Swyddfa Gartref i'w ddefnyddio at y diben hwnnw.

Mae'r gwneuthurwr yn sicrhau bob blwyddyn, yn unol â Chymeradwyaeth Math y Swyddfa Gartref, bod yr offer canfod cyflymder wedi'i galibradu'n iawn.

Mae'r systemau i gyd yn cynnal prawf hunan-ddiagnostig cyn eu defnyddio bob tro ac ni chânt eu defnyddio os oes problem.

Caiff y camerâu cyflymder eu calibradu pan gânt eu danfon gyntaf i'r Bartneriaeth ac mae tystysgrif galibradu'n dod gyda phob dyfais newydd. Mae'r dystysgrif yn dangos dyddiad y caibradu. Os oes rhywun yn dymuno gweld y data technegol, dylent gysylltu â'r gwneuthurwyr. Dim ond gan y gwneuthurwyr y mae manylion trefn galibradu'r gwahanol gamerâu.

Mae angen calibradu safleoedd y camerâu sefydlog ar rai o'n systemau camerâu hefyd. Mae'r gwneuthurwyr yn calibradu safleoedd y camerâu bob blwyddyn ac yn rhoi tystysgrif i ddangos bod y safle wedi'i galibradu. Mae safleoedd camerâu yn rhan o'r system gorfodi cyflymder a chânt eu datblygu gan y gwneuthurwr gyda'r camera sy'n dod gyda'r system honno.

Ar hyn o bryd, mae'r Bartneriaeth hon yn defnyddio systemau canfod a wneir gan:

  • TRUVELO (UK) Ltd (mae swyddfa'r DU yn Brentford, Middlesex)
  • GATSO (dosberthir gan SERCO o Southall, Middlesex)
  • TELE-TRAFFIC (UK) Ltd o Warwick.
  • SPEED CHECK SERVICES (SCS) Ltd o Camberley, Surrey
  • RED SPEED INTERNATIONAL o Kidderminster, Swydd Gaerwrangon


Mae'r gwaith calibradu'r holl safleoedd a'r camerâu yn cael ei wneud yn unol â gofynion trefniadau'r Gymeradwyaeth Math. Dim ond camerâu sydd â thystysgrif galibradu ddilys a ddefnyddiwn i orfodi'r gyfraith ynghylch cyflymder a goleuadau coch.
 

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page