Go Safe

Lleoliadau Camerâu

Lleoliad Camerâu

Caiff camerâu diogelwch eu defnyddio i wneud ffyrdd yn fwy diogel ac i arbed bywydau, nid i wneud arian nac i ddal modurwyr ar y slei.

    

Mae'r camerâu yno i annog pobl i yrru o fewn y terfyn cyflymder ac felly, y camerâu mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n cofnodi'r nifer LEIAF o droseddau, nid y mwyaf.

Mae pob camera yn ardal Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru (LC) ar y mannau lle caniateir rhoi camerâu. Mae sut a phryd y defnyddir y camerâu yn dibynnu ar y damweiniau a'r problemau diogelwch ffyrdd yn y gwahanol leoliadau.

Cofiwch y caiff swyddogion heddlu ddefnyddio camerâu ar bob heol hefyd ac nad oes raid iddyn nhw gydymffurfio â'r un canllawiau o ran bod yn weladwy.

Felly, bob tro y gwelwch gamera diogelwch, cofiwch mai ei ddiben yw helpu i sicrhau eich bod chi a phobl eraill yn cael siwrne ddiogel, nid dal modurwyr ar y slei a gwneud arian.

Welsh Government (WG) guidance Maint: [124 KB] Math o Ffeil: [.rtf]


Dim ond yn y mannau a ganlyn y cawn ddefnyddio camerâu:

Lle mae pobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu

Ceir manylion llawn y meini prawf ynghylch gwrthdrawiadau wrth osod camerâu yng Nghanllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Lle ceir man sy'n achos pryder i'r gymuned.

Nid ydym yn credu mewn aros i rywun gael ei anafu cyn gweithredu, felly rydym yn rhoi camerâu symudol mewn mannau lle mae cymunedau wedi cwyno bod cyflymder yn peryglu bywydau a bod arolwg yn cadarnhau bod goryrru yn broblem wirioneddol.

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page