Dechreuwyd defnyddio Camerâu Diogelwch tua dechrau'r 1990au er mwyn gostwng cyflymder a nifer y damweiniau ar ein ffyrdd.
Mewn adroddiad o'r enw 'The Natiional Safety Camera Programme – 4 year evaluation report', a gynhaliwyd gan yr Adran Drafnidiaeth (DFT) yn 2005 i asesu pa mor effeithiol oedd camerâu diogelwch, tynnwyd sylw at y canfyddiadau a ganlyn:
- Roedd corff sylweddol o dystiolaeth o nifer fawr o safleoedd yn ardaloedd sawl partneriaeth yn dangos bod traffig wedi arafu'n sylweddol mewn mannau lle'r oedd camerâu.
- Roedd y rhan fwyaf o'r cyhoedd o blaid defnyddio camerâu diogelwch mewn rhai ardaloedd.
- Roedd cysylltiad cryf rhwng y gostyngiad mewn cyflymder a'r gostyngiad yn nifer y gwrthdrawiadau, yr anafiadau a'r marwolaethau mewn mannau lle'r oedd camerâu. Ym 1994, dywedodd y Labordy Ymchwil Trafnidiaeth (TRL) bod pob 1mya o ostyngiad mewn cyflymder cyfartalog wedi arwain at ostyngiad o 5% mewn gwrthdrawiadau. Cadarnhawyd y ffigwr hwn gan astudiaeth arall yn 2000.
Rydym wrthi'n cyfrannu at dargedau 2010 a bennwyd yn nogfen yr Adran Drafnidiaeth ‘The Government’s Road Safety Strategy’, a gyhoeddwyd yn 2000. Pennwyd targedau o ostyngiad o 40% yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, gostyngiad o 50% yn nifer y plant sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol a gostyngiad o 10% yn nifer y rhai sy'n cael mân anafiadau am bob 100 miliwn o gilometrau cerbyd.
Cyfrifwyd y man cychwyn ar gyfer y targedau hyn gan ddefnyddio cyfartaledd blynyddol y cyfnod o bum mlynedd rhwng 1994 a 1998.
Llwyddo i leihau nifer y gwrthdrawiadau ac arbed bywydau
Rydym wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad o 48% yn nifer y gwrthdrawiadau lle cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol (KSI) mewn safleoedd lle mae camerâu yng Ngogledd Cymru a gostyngiad o 61% yng Nghanolbarth a De Cymru.
Yn ogystal, rydym wedi sicrhau gostyngiad o 2.3mya yn yr 85ed canradd (y cyflymder nad yw 85% o gerbydau'n mynd drosto) yng Ngogledd Cymru a gostyngiad o 3.7mya yng Nghanolbarth a De Cymru, gan arafu pobl er mwyn arbed bywydau.