Go Safe

Camerâu Diogelwch Sefydlog

Camerâu Diogelwch Sefydlog

Mae gan GanBwyll 158 o safleoedd camerâu sefydlog ledled Cymru i ganfod cerbydau sy'n gyrru ar gyflymder uwch nag a ganiateir ar y ffyrdd. Rhoddir y camerâu hyn mewn mannau sydd â hanes o wrthdrawiadau traffig a achoswyd o leiaf yn rhannol gan gyflymder neu lle cafwyd anafiadau difrifol.

Yn ogystal, mae gennym 41 o gamerâu golau coch Gatso, sy'n canfod cerbydau sy'n mynd trwy signalau traffig pan fydd y golau'n goch a dau gamera digidol RedSpeed “speed on green”, sy'n canfod troseddau golau coch a throseddau goryrru sy'n digwydd pan fydd traffig yn mynd trwy'r signalau pan fydd y golau'n wyrdd

static camera

Camerâu 'Gatso' yw'r camerâu cyflymder sefydlog mwyaf cyffredin yng Nghymru. Cawsant eu dyfeisio gan Maurice Gatsonides, cyn-yrrwr ralïau a rasiwr ceir o'r Iseldiroedd. Mae'r camerâu hyn wedi'u paentio'n felyn â phaent adlewyrchol ac felly gellir eu nabod yn hawdd.

Mae marciau gwirio eilaidd wedi'u paentio ar wyneb yr heol ymhen pellter penodol o safle pob camera cyflymder sefydlog. Gellir cadarnhau cyflymder y cerbyd trwy gyfrif faint o farciau y mae'r cerbyd wedi mynd drostynt rhwng y llun cyntaf a'r ail.

Rydym hefyd yn defnyddio Camerâu Cyflymder Truvelo a Chamerâu Cyflymder Cyfartalog SPECS.

Tystysgrifau Calibradu

Mae'r camerâu diogelwch a'r offer cysylltiedig wedi bod trwy brofion llym gan adran wyddonol y Swyddfa Gartref ac maent wedi cael Cymeradwyaeth Math y Swyddfa Gartref. Er mwyn cael y gymeradwyaeth hon, mae'n rhaid i'r offer gael ei galibradu, ei ddefnyddio gan bobl a hyfforddwyd yn arbennig a'i ddefnyddio yn unol â gofynion yn gwneuthurwr. Caiff y sawl sy'n defnyddio'r offer eu hyfforddi i'w ddefnyddio'n iawn (gellir dangos tystiolaeth o'r trefniadau hyfforddi yn y llys) a chaiff yr offer ei galibradu.

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page