Lle mae Arian y Dirwyon yn Mynd
Nid yw Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru yn gwneud elw o ddirwyon am oryrru a mynd trwy oleuadau coch. Diben camerâu diogelwch yw gwneud y ffyrdd yn fwy diogel – nid gwneud arian.
Mae holl arian y dirwyon yn mynd i'r Trysorlys. Grant gan Lywodraeth Cymru sy'n ariannu'r bartneriaeth. Mae hyn yn golygu nad oes gennym reswm dros roi camerâu yn unman ond lle mae angen amdanynt i wneud y ffyrdd yn fwy diogel.
Mae'r bartneriaeth yn buddsoddi amser ac arian yn addysgu gyrwyr, yn gwneud gwelliannau peirianyddol ac yn targedu camau gorfodi yn y mannau lle mae'r angen fwyaf. Mae camerâu wedi'u defnyddio yng Nghymru ers 1991.
Gallwch chi helpu hefyd.
Trwy ddefnyddio'ch doethineb a gyrru mewn ffordd sy'n addas ar gyfer y ffordd, gallwch helpu i leihau anafiadau ar ein ffyrdd a'u gwneud yn ddiogelach i bawb. Yn ôl y Labordy Ymchwil Trafnidiaeth, byddai arafu dim ond 1mya ar gyfartaledd yn arwain at 5% yn llai o wrthdrawiadau.