Pwy yw GanBwyll?
Partneriaeth a ariannir â Grant gan Lywodraeth Cymru ydym ni. Mae 22 Awdurdod Unedol Cymru, Llywodraeth Cymru, pedwar Heddlu Cymru a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi yn aelodau o GanBwyll. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos â'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a'r Gwasanaethau Tân yng Nghymru.
Mae Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru (PLlAFfC) yn ceisio helpu'r Llywodraeth i gyrraedd ei thargedau trwy sicrhau bod llai o bobl yn cael eu Lladd neu eu Hanafu'n Ddifrifol (KSI) mewn gwrthdrawiadau traffig ar ein ffyrdd.
Sefydlwyd y Bartneriaeth yn 2009 pan unwyd Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Gogledd Cymru a Phartneriaeth Camerâu Diogelwch Canolbarth a De Cymru.
Sut rydym yn gwneud hyn?
Rydym yn defnyddio Dyfeisiau Peirianyddol, Addysg, a Dulliau Gorfodi Cyflymder i helpu i sicrhau bod gyrwyr yn cadw at y terfynau cyflymder a'u helpu i ddeall peryglon/canlyniadau goryrru. Gall pob gyrrwr wneud gwahaniaeth trwy gadw at y terfynau cyflymder a gyrru mewn ffordd sy'n addas ar gyfer cyflwr y ffordd ar y pryd.
Effaith Ehangach
Mae effaith ehangach un gwrthdrawiad difrifol yn ddychrynllyd: Mae Gwasanaethau Iechyd ac Argyfwng yn cael eu rhoi o dan bwysau, mae'n effeithio ar lif y traffig a threfn y ffyrdd, ac nid oes ffordd o fesur y boen a'r dioddefaint a achosir i ffrindiau a pherthnasau pobl sydd mewn damweiniau
Atal Damweiniau
Mae cyflymder bron bob amser yn cyfrannu at achosi gwrthdrawiadau traffig a/neu'n gwneud y canlyniad yn waeth. Mae'n drychineb pan gaiff rhywun ei ladd neu ei anafu ar y ffordd ond mae'r drychineb yn waeth os gellid bod wedi osgoi'r gwrthdrawiad. Trwy reoli cyflymder, gellid osgoi llawer o wrthdrawiadau'n llwyr a gallai gwrthdrawiadau eraill a'u heffeithiau fod yn llai.
Ein Targedau
Yn unol â dymuniadau Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, cyflwynwyd targedau interim i sicrhau ffocws parhaus. Felly, caiff targedau 2010 (o linell sylfaen gyfartalog 1994-98) eu hestyn i gynnwys 2011-12:
Gostyngiad o 50% yn nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol
Gostyngiad o 65% yn nifer y plant sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol
Gostyngiad o 45% yn nifer y mân anafiadau.