Go Safe

Newydd Basio

Newydd Basio

Mae gennych drwydded yrru lawn – ond cofiwch, rydych ar brawf am y ddwy flynedd gyntaf oherwydd y Ddeddf Traffig Ffyrdd (Gyrwyr Newydd) a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 1997.

Daeth DEDDF TRAFFIG FFYRDD (GYRWYR NEWYDD) i rym ar 1 Mehefin 1997. Mae'n berthnasol i yrwyr (a beicwyr modur) newydd. Caiff trwydded unrhyw yrrwr ei dirymu'n awtomatig os bydd y gyrrwr yn cael cyfanswm o chwech neu fwy o bwyntiau cosb dilys cyn pen dwy flynedd ar ôl pasio'r prawf. Mae hyn yn cynnwys unrhyw bwyntiau cosb dilys a roddwyd cyn i'r gyrrwr basio'r prawf. Mae pwyntiau cosb yn ddilys am dair blynedd.

Os ydych yn yrrwr ifanc, mae mwy o berygl y cewch ddamwain yn y ddwy flynedd gyntaf ac mae llawer o ddamweiniau'n digwydd oherwydd goryrru. Mae gyrru'n ddiogel o fewn y gyfraith yn allweddol er mwyn cadw trwydded yrru am gyfnod hir a'i chadw heb bwyntiau.

Os cewch chwe phwynt neu fwy ar eich trwydded yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, fe gollwch eich trwydded a mynd yn ôl i fod yn ddysgwr. Mae hyn yn golygu y bydd raid i chi wneud cais arall am drwydded dros dro a sefyll y prawf theori a'r prawf ymarferol eto. Os bydd hyn yn digwydd, dylech roi gwybod i'ch cwmni yswiriant ar unwaith. Os na wnewch hynny, gallai olygu nad yw'ch yswiriant yn ddilys.

COFIWCH - Pan basiwch y prawf eto, dydi hynny ddim yn cael gwared o'r pwyntiau cosb. Bydd y rheiny'n aros ar eich trwydded nes bod eu cyfnod o dair blynedd yn dod i ben.

Peidiwch â chymryd risg, daliwch ati i ddysgu, meddyliwch am gael hyfforddiant uwch, ewch i Pass Plus Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page