A wyddech chi fod chwarter y gyrwyr ceir sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ym Mhrydain o dan 25 oed, er mai dim ond un gyrrwr o bob pymtheg sydd o dan 25?
Mae dynion o dan 20 oed yn rhan o un damwain o bob tair ac mae un gyrrwr newydd o bob pump yn cael damwain yn y 12 mis cyntaf ar ôl pasio'r prawf.
Edrychwch ar yr wybodaeth ar y chwith – gall fod yn berthnasol i chi fel teithiwr. Beth am roi cynnig ar y gêm 'Does dim angen cyflymder'? Mae'n hwyl a gall ddangos rhai o'r peryglon y dewch ar eu traws ar y ffordd.
Ac efallai yr hoffech chi gael golwg ar y wefan effeithiol yma: www.deadlymates.com