Sut fyddwch chi'n gwybod os caiff un o gerbydau'ch cwmni ei ddal yn goryrru?
- Os mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd (neu, wedi hynny, y gweithredwr/ defnyddiwr a enwyd), anfonir Hysbysiad o'r Bwriad i Erlyn a gofyniad Adran 172 atoch. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi gwybod pwy oedd y gyrrwr pan ddigwyddodd y trosedd.
- Cewch 28 diwrnod i ateb. Os na fyddwch wedi ymateb o fewn y cyfnod hwnnw, gallech gael eich erlyn am beidio ag enwi'r gyrrwr o dan Adran 172 o Ddeddf Traffig Ffordd 1998.
- Mae'r gyfraith yn disgwyl i chi wybod pwy oedd yn gyrru'r cerbyd ac os na roddwch yr wybodaeth hon, gallech gael eich erlyn, cael dirwy o hyd at £1000, 6 phwynt cosb a chofnod troseddol.
Gellid osgoi hyn i gyd trwy sicrhau bod eich gyrwyr yn gwybod am derfynau cyflymder y DU ar gyfer eu math nhw o gerbyd a thrwy gadw llyfr log a alai ddweud wrthych pwy oedd yn gyrru'r cerbyd ar y pryd.
Chi sydd i benderfynu sut i drefnu'r llyfr log, ond dylai nodi enw'r gyrrwr, y dyddiad, hyd y daith ac i ble y mae'n mynd. Dylai'r gyrrwr lofnodi i gadarnhau hyn.