"Reit – gwrandwch yn ofalus – ddywedais i ddim wrth John am yrru'n rhy gyflym. Yr unig beth ddywedais i oedd bod y contract newydd 'ma yn bwysig iawn i ni ac, os na fyddai'r pethau'n cyrraedd mewn pryd, byddai'r cwsmer yn siwr o chwilio am rywun arall.
Fe geisiais i amddiffyn John trwy ddweud nad oeddwn i'n cadw cofnodion o pwy oedd yn gyrru'r faniau – ond fe ddwedon nhw bod ganddyn nhw luniau ac y gallwn i gael dirwy drom neu hyd yn oed garchar pe bawn i'n gwrthod dweud pwy oedd yn gyrru. Felly, beth allwn i ei wneud?
Roedd yn ddrwg gen i golli John. Ond gan fod gennym bolisi ei bod yn rhaid i'n gyrwyr gael trwydded lân a bod John wedi cael chwe phwynt mewn llai nag awr – doedd gen i ddim dewis. Fe wnaethon ni dalu ei ddirwyon fel arwydd o ewyllys da.
A'r peth gwaetha yw ein bod ni wedi colli'r contract beth bynnag!"