Go Safe

Awgrymiadau

Awgrymiadau

Syniadau i'ch helpu i beidio â goryrru

Gadewch ddigon o amser ar gyfer y daith

Mae'n demtasiwn rhoi'ch troed i lawr os ydych ar frys, felly gadewch amser ar gyfer oedi annisgwyl fel tagfeydd traffig a gwyriadau. Cofiwch, os byddwch chi mewn damwain, fe fyddwch chi'n hwyr neu efallai na chyrhaeddwch chi o gwbl.

Cadwch lygad ar eich cloc cyflymder yn ogystal â'ch drychau yn rheolaidd

Dim ond darn bach o eiliad y mae'n gymryd a gallai olygu nad ydych yn mynd dros y terfyn cyflymder yn ddifeddwl.

Cadwch lygad yn agored am derfynau cyflymder

Dylai fod arwyddion amlwg bob amser i ddangos pan fydd y terfyn yn codi neu'n gostwng. Os na fyddwch yn siwr a chithau mewn ardal adeiledig neu heol â goleuadau stryd, dylech gymryd yn ganiataol mai 30mya yw'r terfyn.

Defnyddiwch eich gêrs i gadw'ch cyflymder yn isel

Bydd yn haws i chi reoli'ch cyflymder mewn ardal 30mya os arhoswch yn y drydedd gêr, gan newid i gêr is wrth fynd i lawr rhiw er mwyn peidio â chyflymu a mynd dros y terfyn.

Disgwyliwch yr annisgwyl

Gyrrwch ar gyflymder lle gallwch ymateb mewn pryd i beryglon annisgwyl – plentyn yn rhedeg o'r tu ôl i gar wedi'i barcio neu gerbyd fferm yn symud yn araf wrth fynd rownd tro ar heol wledig, er enghraifft.

Cadwch olwg ar eich cyflymder wth adael traffordd neu ffordd ddeuol

Os ydych wedi bod yn gyrru'n eithaf cyflym am dipyn, gall 50mya deimlo fel 30mya – felly byddwch yn ofalus a dibynnu ar y cloc cyflymder, nid eich greddf.

Mae'r amodau gyrru'n bwysicach na'r terfyn cyflymder

Dydi hi ddim bob amser yn ddiogel gyrru ar y terfyn cyflymder – bydd raid i chi yrru'n arafach weithiau. Er enghraifft, mae 70mya yn rhy gyflym ar draffordd os bydd yr amodau gyrru'n beryglus, mewn niwl, eira, haul isel neu law trwm – felly dylech addasu'ch cyflymder yn ôl yr amodau yn hytrach na chadw at y terfyn, hyd yn oed mewn ardaloedd 30mya.

Cadwch lygad am arwyddion yn rhybuddio am gamerâu

Mae'r arwydd cyfarwydd â'r llun du a gwyn o gamera yn dangos eich bod yn cyrraedd ardal lle gall fod camerâu diogelwch yn gweithio. Dim ond lle mae pobl wedi'u lladd neu eu hanafu, lle mae gwaith ffordd neu ar safleoedd y mae'r gymuned yn poeni amdanynt yr ydym yn defnyddio camerâu cyflymder. Trwy gadw golwg ar eich cyflymder yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal ag osgoi tocyn, byddwch yn llai tebygol o fod mewn gwrthdrawiad mewn ardal lle ceir perygl oherwydd cyflymder.

Cydweithiwch gyda'ch cyflogwr fel na fydd rhaid goryrru

Mynnwch air gyda'ch cyflogwr os ydych chi'n poeni eich bod o dan bwysau i oryrru. Ceisiwch gydweithio i drefnu'ch gwaith yn well fel y gallwch gyrraedd llefydd mewn da bryd heb orfod torri'r gyfraith.

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page