"Ro'n i newydd ollwng pecyn yng Nghaerfyrddin pan ffoniodd y bos a dweud wrtha i am godi pecyn pwysig yng Nghasnewydd a mynd ag e i'r maes awyr mewn pryd i ddal awyren i Ddulyn.
Ddywedais i nad oedd modd yn y byd y gallwn i gyrraedd mewn pryd ond roedd e'n dal i ddweud pa mor bwysig oedd y contract newydd yma i ddyfodol y busnes – ein swyddi ni, mewn geiriau eraill – felly fe roddais i 'nhroed lawr.
Ges i fy nal gan gamerâu cyflymder ddwywaith ond chyrhaeddais i ddim o'r maes awyr mewn pryd yn y diwedd. Ymhen rhai dyddiau, cafodd y bos ddau Rybudd o'r Bwriad i Erlyn yn gofyn iddo pwy oedd yn gyrru'r fan ar y pryd. I fod yn deg, fe geisiodd e fy amddiffyn i trwy ddweud nad oedd yn cofio ond, wrth gwrs, doedd hynny ddim yn gwneud y tro. Pan ddywedon nhw wrtho y gallai gael dirwy o £1000 am beidio ag enwi'r gyrrwr, roedd rhaid iddo gyfaddef a rhoi'r bai arnaf i."