Beth y Gallwch Chi ei Wneud
Bydd gweithwyr yn siwr o ymateb os rhoddwch y wybodaeth gywir iddynt a'u bod yn gallu gweld eich bod o ddifrif am gael trefniadau gweithio newydd fydd yn eu cefnogi nhw. Gallai hyn gynnwys:
- Atgoffa'r holl yrwyr (yn cynnwys staff asiantaethau) bod gwahanol derfynau cyflymder ar gyfer gwahanol fathau o gerbydau a'u bod yn rhaid iddynt gadw at y terfyn cyflymder cywir ar gyfer y cerbyd y maent yn ei yrru.
- Sôn wrth y gweithwyr am ganlyniadau goryrru – nid dim ond y peryglon ond y gost bosibl iddyn nhw ac i'r cwmni.
- Gweithio gyda'ch gweithwyr i addasu llwythi gwaith ac amserlenni os bydd angen.
- Gofalu bod gan bob gyrrwr gopi o'r daflen 'Gwybodaeth i Weithwyr Cyflogedig' sy'n rhoi gwybodaeth werthfawr ar beryglon goryrru a'r cosbau posibl yn ogystal ag awgrymiadau am y gamau y gallant eu cymryd i reoli eu cyflymder o dan wahanol amodau gyrru.
- Mynd i'n gwefan yn rheolaidd. Yno cewch wybodaeth fel y gallwch ddweud wrth eich gweithwyr am y materion allweddol sy'n effeithio arnyn nhw fel gyrwyr cerbydau'r cwmni a'r wybodaeth ddiweddaraf am leoliadau camerâu diogelwch yn eich ardal chi.
- Gofalu eich bod chi'n cael y wybodaeth ddiweddaraf. Darllenwch y daflen 'Gwybodaeth i Gyflogwyr' (PDF). Mae gennym 'Becyn Cyfarwyddwyr' sydd ar gael i'w lawrlwytho hefyd ac sy'n cynnwys gwybodaeth i gyflogwyr a gweithwyr.
- Cysylltu â ni i gael sticeri dwyieithog 'Cofiwch y Cyfyngiadau'. Mae'r sticeri hyn yn nodi'r terfynau cyflymder ar gyfer gwahanol fathau o gerbydau ar wahanol fathau o ffyrdd. Os bydd y sticeri hyn gennych yn eich cerbydau, ni fydd gennych esgus dros beidio â gwybod y terfyn cyflymder priodol a chadw ato.
Bydd yn bleser gan Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru gynnig pa bynnag gymorth arall y bydd arnoch ei angen, ync ynnwys ymweliadau â chwmnïau a chyflwyniadau pwrpasol i reolwyr a staff. Cofiwch ofyn!