Fe ddywedais i wrtho – Yn fy musnes I, mae unrhyw yrrwr sydd ar gael yn cymryd pa gerbyd bynnag sy'n rhydd yn yr iard. Sut mae disgwyl i mi gadw cyfrif?
Ond roedd cael dirwy o fil o bunnau'n dipyn o sioc. Felly, dw i wedi archebu llyfrau log i bob gyrrwr eu llofnodi pan fyddan nhw'n mynd â cherbyd ac yn dod ag e nôl.
Syml! Dw i ddim yn gwybod sut na wnes i feddwl am hynny o'r blaen.