Go Safe

Peidiwch â Rasio ar ôl Pasio

Peidiwch â Rasio ar ôl Pasio

Mae pasio eich prawf gyrru yn gyfle gwych.

Mae pasio'ch prawf gyrru yn gyfle gwych. Mae'n golygu bod yr holl oriau a £££oedd o wersi wedi talu'r ffordd ac y gallwch fwynhau rhyddid newydd. Fodd bynnag, mae'n hawdd colli'r rhyddid hwnnw...

Os cewch eich dal yn goryrru, byddwch naill ai'n cael dirwy o £60 a thri phwynt ar eich trwydded neu bydd y llys ynadon yn delio â chi. Os cewch chwe phwynt, byddwch yn colli'ch trwydded yn awtomatig ac yn mynd nôl i fod yn ddysgwr.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi??

  • Bydd raid i chi wneud cais eto am drwydded dros dro
  • Bydd raid i chi ailsefyll y prawf ymarferol A'R prawf theori a thalu am hynny
  • Bydd raid i rywun sydd dros 21 oed ac sy'n gyrru ers o leiaf dair blynedd fod gyda chi pan fyddwch yn gyrru.
  • Ni fyddwch yn cael gyrru ar draffyrdd
  • Bydd y premiwm yswiriant yn codi.


 

A pheidiwch â chael eich temtio i anwybyddu'ch pwyntiau. Byddai parhau i yrru heb drwydded ddilys yn drosedd a'r gosb uchaf yn £1,000!!

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page