Os ydych yn yrrwr ifanc, mae pris yr yswiriant yn uchel ar y gorau ar ôl i chi basio'ch prawf. Ond bydd y pris yn codi'n sylweddol os cewch bwyntiau ar eich trwydded am oryrru.
Un ffordd o helpu i gadw pris yr yswiriant yn is yw mynd ar gwrs Passplus / Pass Plus Cymru. Mae Passplus / Pass Plus Cymru yn gynllun a gefnogir gan gwmnïau yswiriant, y Llywodraeth a'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA).
Ei nod yw'ch helpu i fod yn well gyrrwr ac felly fod yn llai tebygol o gael damwain.