A wyddech chi ...?
Os cewch eich dal yn goryrru ddwywaith yn y ddwy flynedd gyntaf y byddwch yn gyrru, bydd gennych chwe phwynt ac fe gollwch eich trwydded yn awtomatig.
Mae hyn yn golygu mynd yn ôl i fod yn ddysgwr [ rhagor o wybodaeth yn Peidiwch â Rasio ar ôl Pasio ], talu am drwydded dros dro newydd, a phasio'r prawf theori A'R prawf ymarferol eto. Bydd raid i chi ddibynnu ar mam a dad am liffts tra bydd eich ffrindiau'n mwynhau'r rhyddid a ddaw wrth yrru ...