Go Safe

Gyrwyr Aeddfed

Gyrwyr Aeddfed

Mae gyrru'n fwy cymhleth ac yn gofyn mwy gennych nag yr oedd slawer dydd. Mae gyrwyr aeddfed yn tueddu i fod yn brofiadol, yn hyderus ac yn oddefgar. Mae hyn yn helpu i'w gwneud yn fwy diogel ar y ffordd na gyrwyr iau.

Fodd bynnag, wrth i chi heneiddio, mae eich gallu i ddehongli symudiadau a bwriadau gyrwyr eraill ac i ymateb i sefyllfaoedd yn newid yn raddol. Efallai na fyddwch yn gweld, yn clywed nac yn gallu barnu cyflymder cweit cystal â phan oeddech yn iau. Efallai bod stiffrwydd yn ei gwneud yn anodd i chi droi'ch pen i weld mannau dall neu i gadw golwg ar gerbydau ar y naill ochr a'r llall i chi. Mae'r newidiadau hyn yn digwydd mor raddol, efallai na fyddwch yn sylweddoli eu bod yn digwydd.

Mae'r gyfraith yn mynnu bod gyrrwr yn adnewyddu ei drwydded/thrwydded pan fydd yn 70 oed a phob tair blynedd wedyn.  I adnewyddu eich trwydded yrru yn 70 oed neu’n hyn: Ewch i: www.direct.gov.uk/renewat70    Hefyd, mae'r gyfraith yn mynnu bod pob gyrrwr, hen neu ifanc, yn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os bydd cyflwr meddygol a allai effeithio ar ei allu i yrru'n ddiogel yn cychwyn neu'n gwaethygu. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyflwr ar y galon, epilepsi, diabetes a thrafferth i ddefnyddio'r breichiau neu'r coesau sy'n effeithio ar allu gyrrwr i reoli cerbyd.

xxx

Eich golwg

Mae'n drosedd gyrru cerbyd os na allwch ddarllen plât rhif arferol mewn golau dydd da o bellter o 20.5m (67 troedfedd) - hyd cae criced.
 

  • Os oes arnoch angen sbectol neu lensys cyffwrdd i gyrraedd y safon hon, gofalwch eu gwisgo bob tro y byddwch yn gyrru.
  • Ewch i gael prawf llygaid yn rheolaidd oherwydd gall newidiadau i'ch golwg ddigwydd yn araf, heb i chi sylweddoli. Hefyd gall optegydd sylwi ar arwyddion cynnar rhai cyflyrau meddygol a all effeithio ar eich ffitrwydd i yrru e.e. cataractau, glawcoma a diabetes.
  • Os byddwch yn cyrraedd y safon ond bod gennych gataractau, peidiwch â gyrru yn y nos na phan fydd yr haul yn gryf.
  • Os byddwch yn datblygu glawcoma neu glefyd arall ar y llygaid, neu os bydd unrhyw newid yn y naill lygad neu'r llall, holwch eich meddyg teulu neu arbenigwr a ydych yn ffit i yrru ac, os cewch eich cynghori i wneud hynny, rhowch wybod i'r DVLA am y cyflwr.  Cael gwybod beth yw'r rheolau ei ddweud a sut mae eich golwg yn cael ei brofi cliciwch yma
     

 

Adnewyddu eich sgiliau

Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall hyd yn oed yrwyr profiadol lithro i arferion drwg ac nad ydynt bob amser mor gyfarwydd â Rheolau'r Ffordd Fawr ag y dylent fod. Felly, mae'n syniad da atgoffa'ch hunan o bryd i'w gilydd.

Fe gewch bopeth y mae arnoch angen ei wybod, yn cynnwys y newidiadau ddiweddaraf i'r gyfraith, yn y rhifyn diweddaraf o 'Reolau'r Ffordd Fawr' ac yn 'Llawlyfr Gyrru' yr Asiantaeth Safonau Gyrru. Mae'r ddau ar gael o siopau llyfrau da.

Rhoi'r gorau i yrru – pryd i wneud hynny?

Os nad ydych yn siwr a ydych yn ffit i yrru, dylech holi eich meddyg teulu neu'ch ymgynghorydd. Bydd hyfforddwr gyrru cymeradwy yn gallu rhoi barn arbenigol i chi hefyd, neu gallwch drefnu asesiad gyrrwr profiadol gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA). Os byddwch yn rhoi'r gorau i yrru, does dim rhaid i hynny olygu colli annibyniaeth, yn enwedig os mai rhai lleol yw'r rhan fwyaf o'ch teithiau car. Gallai'r arian a dalwch bob blwyddyn ar dreth, yswiriant, cynnal a chadw, a phetrol/diesel i'ch car dalu am lawer o deithiau tacsi.

xxxx
Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page