Y ffordd ddiogelaf i blant deithio mewn ceir yw mewn sedd plentyn sy'n addas ar gyfer eu pwysau a'u maint.
Hyd yn oed mewn gwrthdrawiad bach, gall plentyn sy'n rhydd yn y car gael ei daflu o gwmpas gan ei anafu ei hunan ac eraill. Gallai gael ei daflu o'r car trwy un o'r ffenestri. Cliciwch ar y ddolen isod i gael cyngor am gadw'ch plant yn ddiogel wrth deithio mewn ceir

Dyma a ddywed y gyfraith*
Mae'r gyfraith yn dweud bod pob plentyn hyd at 135cm o daldra (tua 4'5"), neu 12 oed, pa un bynnag ddaw gyntaf, yn y sedd flaen neu'r sedd ôl mewn ceir, faniau a cherbydau nwyddau eraill, yn gorfod defnyddio dyfais ddiogelu gywir ar gyfer eu pwysau. Ychydig iawn o eithriadau a geir.
Mae'n rhaid i bobl sy'n ymweld â'r DU o dramor ddefnyddio'r seddi diogelu cywir ar gyfer eu plant hefyd – nid oes eithriadau o gwbl iddyn nhw. Os ydych yn disgwyl ymwelwyr – teulu neu ffrindiau efallai – dylech ofalu bod yr ymwelwyr yn deall y rheolau. Efallai y bydd angen help arnynt i drefnu bod eu plant yn defnyddio'r ddyfais ddiogelu gywir bob amser. Gall cwmnïau rhentu ceir ddarparu seddi diogelu ar gyfer eu cwsmeriaid os gofynnwch ymlaen llaw.
Eithriadau i'r rheolau
O dan rai amgylchiadau yn unig, caiff plant deithio heb sedd ddiogelu.
1) Mewn tacsi trwyddedig neu mewn cerbyd hurio preifat trwyddedig. Os nad oes sedd ddiogelu briodol ar gael, caiff plant o dan dair oed deithio heb sedd ddiogelu na gwregys, yn y sedd gefn yn unig. Rhaid i blant tair oed a throsodd wisgo gwregys diogelwch oedolion.
2) Os bydd raid, yn annisgwyl, ar daith fer. Os nad oes sedd plentyn addas ar gael, rhaid i blentyn tair oed neu drosodd ddefnyddio gwregys oedolion a theithio yn y sedd gefn yn unig. Nid yw plant o dan dair oed yn cael eu heithrio fel hyn. Nid yw teithiau rheolaidd i'r ysgol na theithiau eraill a gaiff eu trefnu ymlaen llaw yn cael eu heithrio chwaith.
3) Os oes plant mewn dwy sedd ddiogelu yn y sedd gefn ac na allwch osod un arall, a bod rhywun yn eistedd yn y sedd flaen, caiff trydydd plentyn, tair oed neu drosodd ddefnyddio gwregys diogelwch oedolyn (dros y côl NEU dros y côl ac at hytraws) yn y cefn. Os yw'r sedd flaen yn rhydd, mae'n rhaid i'r trydydd plentyn eistedd yno gan ddefnyddio sedd ddiogel addas.
4)Mewn cerbydau hŷn heb wregysau diogelwch yn y cefn. Yn y rhain, caiff plant tair oed a throsodd deithio'n rhydd.
* ffynhonnell: http://www.dft.gov.uk/