Wrth yrru, byddwch yn torri'r gyfraith trwy godi neu ddefnyddio unrhyw fath o ffôn yr ydych yn ei ddal, neu y mae'n rhaid i chi ei ddal, er mwyn iddo weithio. Er enghraifft, mae hyn yn golygu na chewch ddefnyddio'ch ffôn symudol tra byddwch wedi stopio wrth oleuadau traffig; tra byddwch yn ciwio mewn traffig; i dderbyn galwadau, lluniau, negeseuon testun nac i fynd ar y rhyngrwyd.
Os ydych yn gyflogwr, gallwch gael eich erlyn os byddwch yn mynnu bod gweithwyr yn gwneud neu'n derbyn galwadau wrth yrru.

Mae'n anghyfreithlon defnyddio ffôn symudol sydd i fod i gael ei ddal â llaw wrth yrru. Cewch ddirwy o £60 a thri phwynt cosb ar eich trwydded**. Gall y pwyntiau olygu bod cost yr yswiriant yn uwch.
Gallech gael eich erlyn hefyd am ddefnyddio ffôn symudol nad oes raid ei ddal â llaw os nad oes gennych reolaeth iawn dros y cerbyd. Yr un fydd y gosb ag ar gyfer defnyddio ffôn sy'n cael ei ddal â llaw. A gall y gosb am yrru'n ddiofal neu'n beryglus wrth ddefnyddio unrhyw ffôn gynnwys cael eich gwahardd, cael dirwy fawr a hyd at ddwy flynedd o garchar.
A oes eithriadau? Oes – caiff gyrrwr ffonio 999 neu 112 mewn ymateb i wir argyfwng os yw'n anniogel neu'n anymarferol stopio i wneud yr alwad.
* Think! Tracking Research 2003
**Os aiff yr achos i'r llys gallech gael dirwy o hyd at £1,000 (£2,500 i yrwyr faniau, lorïau, bysiau arferol a bysiau tripiau).