Go Safe

Alcohol

Alcohol

Mae gyrwyr sydd wedi yfed mwy na'r swm a ganiateir o alcohol yn gyfrifol am bron un o bob chwech o'r holl farwolaethau ar yr heol. Os byddwch yn gyrru ar ôl yfed dwywaith gymaint o alcohol ag a ganiateir, rydych o leiaf 50 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn damwain car farwol â phe na baech wedi bod yn yfed.

Peidiwch â bod mor siwr na chewch eich dal! Mae tua 100,000 o yrwyr yn cael eu dal yn yfed a gyrru bob blwyddyn*. Does dim raid i chi fod mewn damwain cyn cael prawf anadl. Gall yr heddlu ofyn i chi gymryd prawf anadl os ydynt yn meddwl efallai eich bod wedi bod yn yfed neu os byddwch yn gwneud rhywbeth na ddylech wrth yrru. Yn y DU, mae'n anghyfreithlon gyrru os oes gennych fwy nag 80 miligram o alcohol mewn 100 mililitr o waed.
* www.thinkroadsafety.gov.uk

Os byddwch yn euog o yfed a gyrru gallech wynebu sawl cosb. Yn ogystal:

  • Gallech golli'ch gwaith
  • Gallai'ch ffordd o fyw newid yn fawr iawn
  • Bydd costau yswiriant yn uwch
  • Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd yn anodd i chi logi car neu gael gwaith os ydych yn yrrwr proffesiynol neu'n gobeithio bod yn un

Euogfarnau a Chosbau


 

Os penderfynir eich bod yn euog o: Y gosb fwyaf yw:
Achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal tra byddwch o dan ddylanwad diod neu gyffuriau
 
14 blynedd o garchar, dirwy anghyfyngedig, gwahardd rhag gyrru am o leiaf ddwy flynedd a phrawf gyrru estynedig gorfodol
 
Gyrru neu geisio gyrru tra byddwch dros y terfyn cyfreithiol neu heb fod yn ffit oherwydd dylanwad alcohol
 
6 mis o garchar, dirwy o hyd at £5,000 a gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf 12 mis. (Tair blynedd os cafwyd chi'n euog ddwywaith mewn 10 mlynedd)
 
Bod yng ngofal cerbyd tra byddwch dros y terfyn cyfreithiol neu heb fod yn ffit oherwydd dylanwad alcohol
 
3 mis o garchar,
dirwy o hyd at £2,500 ac, o bosib, gwaharddiad rhag gyrru
 
Gwrthod rhoi sampl o anadl, gwaed neu wrin i gael ei ddadansoddi
 
6 mis o garchar, dirwy o hyd at £5,000 a gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf 12 mis.
 

Pryd fyddwch chi wedi cael gormod?


Mae hyd yn oed ychydig o alcohol yn effeithio ar eich gallu i yrru'n ddiogel. Gall yr effeithiau gynnwys:

  • Ymateb yn arafach

  • Angen mwy o le i stopio

  • Methu mesur cyflymder a phellter cystal

  • Gallech fod yn orhyderus

  • Ddim yn gallu gweld mor eang

     

Gallech fod yn orhyderus ac yn fwy tebygol o gymryd risg, sy'n achosi perygl i bawb, yn cynnwys chi'ch hunan.

Nid oes swm pendant o alcohol y gallwch ei yfed ac aros o dan y terfyn cyfreithiol neu ei yfed a dal i yrru'n ddiogel. Mae'n dibynnu ar eich pwysau, rhyw, oed, metabolism, lefelau straen, a ydych yn gyrru ar stumog wag, faint o alcohol a'r math o alcohol a gawsoch. Yr unig ddewis diogel yw peidio ag yfed os ydych yn bwriadu gyrru.

 

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page