Mae terfynau cyflymder yn y DU yn amrywio yn ôl y math o gerbyd a'r math o heol. Mae gyrru ychydig dros y terfyn yn gwneud gwahaniaeth a gallai wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw. Wrth yrru ar 35mya, rydych ddwywaith yn fwy tebygol o ladd cerddwr ag yr ydych wrth yrru ar 30mya (RoSPA – Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau).
Cofiwch, os oes goleuadau stryd, mae'n debygol bod terfyn cyflymder o 30mya. Os oes goleuadau stryd ond bod y terfyn yn uwch na 30mya bydd arwyddion ailadrodd yn nodi'r terfyn cyflymder ar gyfer y darn hwnnw o'r ffordd.
Nid yw'r terfynau cyflymder hyn yn disodli unrhyw gyfyngiadau a bennir gan ddyfeisiau cyfyngu cyflymder. I gael rhagor o wybodaeth am ddyfeisiau cyfyngu cyflymder, darllenwch "Road Vehicles (Construction and Use) Amendment No. 5 Regulations 2005 (Road Traffic Act 1988)" ac "A Guide to Speed Limiter Requirements".