Go Safe

Gwregysau Diogelwch

Gwregysau Diogelwch

Mae dros 2,000 o fywydau'n cael eu hachub bob blwyddyn oherwydd bod pobl yn gwisgo gwregysau diogelwch

Mae'r gyfraith yn mynnu bod pobl yn defnyddio gwregys diogelwch os oes un wedi'i osod. Er eich diogelwch chi ac eraill, cymerwch amser i ddod i wybod y gyfraith a sut i ddefnyddio gwregys diogelwch, sêt babi/plentyn, neu sêt codi plentyn.

Mae'r gyfraith yn nodi'n glir iawn fel a ganlyn:

  • Mae'n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch mewn ceir a cherbydau nwyddau os oes un wedi'i osod. Ychydig iawn o eithriadau a geir. Gellir erlyn y gyrrwr os nad yw plentyn o dan 14 oed yn gwisgo gwregys diogelwch neu'n eistedd mewn sedd ddiogelu.
  • Rhaid i chi beidio â chario plentyn yn rhydd yn sedd flaen unrhyw gerbyd.
  • Mae'n rhaid i blant hyd at 135cm o daldra ddefnyddio'r ddyfais ddiogelu briodol wrth deithio mewn car, fan neu gerbyd nwyddau – ychydig iawn o eithriadau a geir.
  • Caiff plentyn ddefnyddio gwregys oedolyn ar ôl cyrraedd 135cm neu 12 oed.
  • Mewn bysus neu fysus moethus lle ceir gwregysau diogelwch, mae'n rhaid i deithwyr tair oed a hŷn eu defnyddio. Rhaid defnyddio dyfeisiau diogelu plant os ydynt ar gael yn y cerbyd. Mae teithwyr mewn cerbydau a ddefnyddir ar gyfer y cyhoedd sy'n talu am deithio ar ffyrdd 30mya yn cael eu heithrio.
Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page