
Bydd cymryd cyffuriau yn amharu ar eich sgiliau gyrru
Mae'n drosedd gyrru tra byddwch yn anffit oherwydd effaith cyffuriau. Mae llawer o bobl o'r farn mai'r cyfan sydd ganddynt i boeni amdano os byddant yn gyrru o dan ddylanwad cyffuriau yw y bydd yr heddlu'n chwilio'r cerbyd ac y gallent gael eu herlyn am fod â chyffuriau yn eu meddiant.
Mae gyrru o dan ddylanwad cyffurfiau – meddyginiaethau a roddwyd gan feddyg neu sylweddau anghyfreithlon – yr un mor beryglus â gyrru o dan ddylanwad alcohol. Mae yn erbyn y gyfraith hefyd.
- Gallech gael eich gwahardd rhag gyrru am o leiaf flwyddyn
- Dirwy o hyd at £5,000
- Chwe mis o garchar
Bydd cymryd cyffuriau yn amharu ar eich sgiliau gyrru. Mae gyrru o dan ddylanwad cyffuriau yn eithriadol o beryglus a gall effeithio ar eich sgiliau gyrru mewn sawl ffordd.
Gall gyrwyr sydd o dan ddylanwad cyffuriau gymryd mwy o amser i ymateb, gallant ymddwyn yn eratig ac ymosodol, gallant fethu canolbwyntio'n iawn, teimlo'n sâl, cael rhithwelediadau, teimlo panig, paranoia, mynd i ysgwyd, teimlo'n benysgafn neu'n flinedig iawn. Os felly, mae'n syniad drwg gyrru – i'r gyrrwr a'r teithwyr.
Tra bydd effaith y cyffuriau'n gwanio, gall y sawl a'u cymrodd deimlo'n flinedig a bydd hyn yn golygu na all ganolbwyntio wrth yrru.