Go Safe

Gwybod Beth ywr Gyfraith

Gwybod Beth yw'r Gyfraith

Os cewch eich dal yn torri'r gyfraith a chithau'n gyrru, gallech gael dirwy fach neu fawr – o £60 am oryrru, i hyd at £5,000 am 'yrru'n beryglus'. Os achoswch farwolaeth ar yr heol, nid oes cyfyngiad ar y ddirwy am 'achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus'.

Mae cyfreithiau gyrru wedi'u cyflwyno am reswm. Cliciwch ar y dolenni i gael rhagor o wybodaeth.

Terfynau Cyflymder
Mae terfynau cyflymder yn y DU yn amrywio yn ôl y math o gerbyd a'r math o heol. Mae gyrru ychydig dros y terfyn yn gwneud gwahaniaeth a gallai wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Alcohol
Mae gyrwyr sydd wedi yfed mwy na'r swm a ganiateir o alcohol yn gyfrifol am bron un o bob chwech o'r holl farwolaethau ar yr heol.
Ffonau Symudol
Wrth yrru, byddwch yn torri'r gyfraith os byddwch yn codi neu'n defnyddio unrhyw fath o ffôn sy'n cael ei dal, neu y mae'n rhaid ei dal, er mwyn iddi weithio.
Pellter Stopio
Wrth gwrs, bydd y pellter stopio yn amrywio yn ôl y tywydd ac o gar i gar.
Gyrru ar ôl cymryd cyffuriau
Mae llawer o bobl o'r farn mai'r cyfan sydd ganddynt i boeni amdano os byddant yn gyrru o dan ddylanwad cyffurfiau yw y bydd yr heddlu'n chwilio'r cerbyd ac y gallent gael eu herlyn am fod â chyffuriau yn eu meddiant.
Gwregysau diogelwch
Mae dros 2,000 o fywydau'n cael eu hachub bob blwyddyn oherwydd bod pobl yn gwisgo gwregysau diogelwch.
Seddi Plant
Y ffordd ddiogelaf i blant deithio mewn ceir yw mewn sedd plentyn sy'n addas ar gyfer eu pwysau a'u maint.

 

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page