Mae Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru yn ymroi i addysgu ac ennyn diddordeb pobl o bob oed mewn diogelwch ffyrdd gan ddefnyddio nifer o wahanol ffyrdd o gyfleu'r neges. Maent yn cynnwys:
Addysg Ochr y Ffordd
Gellir rhoi Dyfais Dangos Cyflymder (SID) neu Arwydd sy'n cael ei
Gynnau gan Gerbydau (VAS) y tu allan i ysgol ar amserau prysur i ddangos i yrwyr pa mor gyflym y maent yn mynd. Mae plant wrth eu bodd yn gweld y rhain hefyd. Un ffordd o ddefnyddio'r SID yw hyn: pan fydd gyrrwr yn mynd dros y terfyn cyflymder, mae'r arwydd SID yn dangos wyneb trist ac mae'r plant yn gweiddi bŵ ar y gyrrwr. Pan fydd gyrrwr yn cadw at y cyflymder iawn, mae'r SID yn gwenu a'r plant yn gweiddi hwrê ar y gyrrwr. Yn aml, ar ôl hyn, rydym yn cynnal gweithgareddau am ddiogelwch ar y ffordd yn y dosbarth. Rydym yn defnyddio sawl gwahanol fath o VAS a SID ledled Cymru.
Mae SID a VAS yn effeithiol wrth ochr y ffordd yn gyffredinol hefyd. Gyda help Swyddogion Heddlu, mae gyrwyr sy'n goryrru'n cael eu stopio ac mae'r SFfD yn eu dysgu am beryglon a chanlyniadau goryrru.
Ymweliadau/Cyflwyniadau
Mae Swyddogion Diogelwch Ffyrdd yng Nghymru yn cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau gyda phlant/gyrwyr ifanc a gyrwyr proffesiynol. Weithiau, maent yn defnyddio gêm yrru ar y cyfrifiadur ac weithiau maent yn mynd i'r ysgol neu'r swyddfa i sgwrsio. Mae'r swyddogion yn ymweld â nifer o ysgolion a cholegau, clybiau ieuenctid a chwmnïau sy'n cyflogi gyrwyr.
Cymunedau 
Mae'r Swyddogion Diogelwch Ffyrdd yn weithgar iawn yn eu cymunedau o ddydd i ddydd gan fynd i gyfarfodydd cymunedol a digwyddiadau lleol.
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr uchod neu fanylion am faterion yn ymwneud â chamerâu diogelwch neu ddulliau peirianyddol o atal goryrru yn eich ardal, cysylltwch â ni..