Sut i Beidio â Chael Tocyn

Wrth arafu, gallech gadw'ch arian, eich trwydded a hyd yn oed eich bywyd
Efallai fod hyn yn swnio'n amlwg - dim ond un ffordd sydd 'na o beidio â chael eich dal yn goryrru - sef gyrru o fewn y terfyn cyflymder bob amser.
Os ydych yn cadw o fewn y terfyn pan fyddwch yn meddwl bod camera cyflymder gerllaw ac yn ei anwybyddu bryd arall, mae'n bosib y cewch eich dal ac rydych yn fwy tebygol o fod mewn damwain.
Helpwch ni i wneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb.
Nid eich dal chi'n goryrru yw ein nod. Ein gobaith ni yw y byddwch yn cadw golwg ar eich cyflymder ac yn gyrru'n ddiogel.
Pethau i'w gwneud bob amser
- Cynllunio'ch taith a gadael digon o amser i gyrraedd y pen draw
- Gyrru ar gyflymder sy'n addas ar gyfer y ffordd a'r tywydd
- Peidio â chynhyrfu a pheidio â mynd i ffraeo â gyrwyr eraill
Awgrymiadau
- Cadwch lygad ar y cloc cyflymder
- Os oes goleuadau stryd, mae'n debygol bod terfyn cyflymder o 30mya
- Os oes goleuadau stryd ond bod y terfyn yn uwch na 30mya bydd arwyddion ailadrodd yn nodi'r terfyn cyflymder ar gyfer y darn hwnnw o'r ffordd
- Dewiswch gêr isel i reoli cyflymder eich cerbyd. Bydd hyn yn eich helpu i gadw o fewn y terfyn cyflymder ac i stopio'n gynt os bydd raid
- Gadewch bellter o ddwy eiliad rhyngoch chi a'r cerbyd o'ch blaen