Go Safe

Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder

Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder

Mae'r pedwar Heddlu yng Nghymru yn ymrwymedig i ddiogelwch ar y ffyrdd ac addysgu gyrwyr. Cyflwynwyd cynllun Ymwybyddiaeth Cyflymder yng ngogledd Cymru ym mis Chwefror 2006 ac yng nghanolbarth a de Cymru ym Mehefin 2009 fel dewis arall i ddirwy a phwyntiau cosb ar y drwydded yrru. Cost y cwrs yw £85, ac fe'i cynigir fel dewis arall i'r ddirwy £60 a 3 phwynt cosb. Mae modurwyr yn gymwys ar yr amod nad ydynt wedi torri'r cyfyngiad cyflymder fwy na 10% + 9mya a heb gwblhau Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder o fewn tair blynedd. Bydd y rhai sy'n torri'r cyfyngiad cyflymder dros 10% + 9mya yn derbyn cosb benodol neu wynebu proses llys.


Cofrestrir y darparwyr gwasanaethau ar gyfer y cyrsiau gan Gymdeithas Genedlaethol y Darparwyr Cynlluniau Gwella (ANDISP). Mae'r holl hyfforddwyr yn Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy'r Asiantaeth Safonau Gyrru. Ewch i www.dft.gov.uk/DSA i gael rhagor o wybodaeth. Gellir mynd i Gwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder mewn unrhyw ardal heddlu lle mae'r Cynllun Cenedlaethol (NDORS) wedi'i fabwysiadu, ni waeth ble digwyddodd y drosedd.


Mae'r cwrs yn weithdy pedair awr mewn ystafell ddosbarth ac fe'i lluniwyd i archwilio'r rhesymau pam mae pobl yn torri'r cyfyngiad cyflymder ac yn ceisio helpu i ddatblygu strategaeth i atal hyn rhag digwydd eto. Ar ddiwedd y cwrs, dylai gyrwyr allu nodi: -


• beth sy'n achosi gyrwyr/beicwyr i yrru'n rhy gyflym
• canlyniadau camddefnyddio cyflymder
• cyfyngiadau cyflymder wrth yrru/beicio
• peryglon posibl ar y ffordd


Nid oes prawf ysgrifenedig ffurfiol, ond disgwylir i yrwyr gael agwedd gadarnhaol. Cynigir cyrsiau yn Gymraeg a Saesneg a darperir ar gyfer anableddau.
Gall hyd at 20 person fynd ar gwrs a rhoddir taflenni perthnasol sy'n ymwneud a diogelwch ffyrdd i bob gyrrwr.


Gellir mynd ar un cwrs yn unig mewn cyfnod o dair blynedd ac nid yw'n orfodol. Bydd darparwr y cwrs yn ysgrifennu at yr ymgeisydd gyda manylion am sut i sicrhau lle ar gwrs. Ar ôl cwblhau cwrs yn llwyddiannus, caiff y ffeil am y digwyddiad hwnnw ei gau ac ni chymerir unrhyw gamau eraill. Hysbysir pob gyrrwr am hyn yn ysgrifenedig gan yr Heddlu perthnasol.


Rhaid i dramgwyddwr gwblhau'r cwrs o fewn 4 mis i ddyddiad y drosedd. Gall methu â gwneud hyn arwain at erlyniad.
 

Darparwyr y Cwrs:-


Canolbarth a de Cymru

TTC Group
Hadley Park East
Hadley
Telford
Swydd Amwythig
TF1 6QJ

Rhif ffôn: 08452704363
www.ttc-uk.com
 

Gogledd Cymru


AA DriveTech
Fanum House
Basing View
Basingstoke
RG21 4EA

Rhif ffôn: 08453459623
www.aadrivetech.com
 

Mae'n amlwg o'r adborth bod gyrwyr yn meddwl bod y cwrs yn hynod fuddiol.


Sylwadau a barn gan bobl sydd wedi bod ar y cwrs:


"Hoffwn ddweud cymaint y gwnes i fwynhau'r cwrs ymwybyddiaeth cyflymder. Dysgais cryn dipyn, ac rwy'n teimlo fy mod i'n yrrwr llawer gwell ar ôl hyn. Roedd yr hyfforddwr yn wych. Rwy'n gobeithio daw'r cwrs hwn yn orfodol i bob gyrrwr oherwydd mae ei angen yn fawr ar ein ffyrdd heddiw."


"Es i ar y cwrs ymwybyddiaeth cyflymder yn ddiweddar. Rwyf am ddweud ei fod yn gwrs arbennig o dda ac mewn gwirionedd, mae wedi gwneud i mi ailfeddwl y ffordd rwy'n gyrru. Roedd hwn gymaint yn fwy buddiol na chael dirwy a phwyntiau. Rwy'n credu byddai'n ddefnyddiol iawn i'r rhai sy'n torri'r cyfyngiad cyflymder o gryn dipyn yn ogystal â'u dirwy a'u pwyntiau, gan ei fod yn rhoi canlyniadau eich gweithredoedd mewn cyd-destun.


"Rwy'n ysgrifennu i ganmol eich ymgyrch diogelwch ffyrdd ac i ddiolch i chi am y cyfle i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder yn hytrach na chael pwyntiau ar fy nhrwydded. Roedd y cwrs wedi'i gynllunio'n a'i gyflwyno'n dda, roedd yn llawn gwybodaeth ac yn ysgogi'r meddwl.
 

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page