Go Safe

Mini Motos a Go-Peds

Mini Motos a Go-Peds

Mae rhai rhieni'n prynu Mini-Moto neu Go-ped i'w plant heb sylweddoli beth yw'r rheolau. Mae'r cerbydau modur bach hyn yn dod yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc ond nid pawb sy'n gwybod beth yw'r gyfraith:

NID YW'n gyfreithlon gyrru'r rhan fwyaf o bell ffordd o Mini Motos/Go Peds ar ffordd neu mewn lle cyhoeddus

  • CHEWCH CHII DDIM yswiriant ar eu cyfer.
  • Mae'n fwy na thebyg y byddwch yn torri sawl deddf os defnyddiwch y peiriannau hyn, yn enwedig mewn lle cyhoeddus e.e. Traffig Ffyrdd, Amgylcheddol, Ymddygiad Gwrth Gymdeithasol, ac yn torri Cytundebau Tenantiaeth.
  • CEWCH eu gyrru ar dir preifat GYDA CHANIATÂD perchennog y tir, sef yr awdurdod lleol mewn rhai achosion. OND gallai'r awdurdodau iechyd yr amgylchedd eich herio a dylai perchennog y tir sylweddoli y gallai materion ynghylch atebolrwydd godi, yn cynnwys mynd yn groes i Ddeddfau Iechyd a Diogelwch.
  • DYDI'R RHAN FWYAF ddim yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch sylfaenol yr UE. Yn aml, caiff y cerbydau hyn eu gwerthu o lefydd annibynadwy heb gefnogaeth ar ôl gwerthu ac yn aml does dim rhannau sbâr ar gael. Gallant fynd dros 30mya ac mae pobl wedi marw wrth eu defnyddio.


 

Y Gyfraith:

Os ydych yn mynd i reidio un o'r rhain, gofalwch gadw at y rheolau isod:

Mae pawb yn gwybod ei bod yn rhaid gwisgo helmed ddiogelwch ond mae mwy iddi na hynny.

Er mwyn bod yn gyfreithlon:

  1. Mae'n rhaid cau'r straben.
  2. Mae'n rhaid iddi ffitiio'n iawn.
  3. Mae'n rhaid iddi fod yn helmed ddiogelwch gymeradwy. Bydd naill ai sticer BS6658 ar y tu allan neu nod cymeradwyo'r GE ar y tu mewn. Dim ond BS 6658 mathau A a B neu gyfres 05 Rheoliad 22 y GE sy'n gyfreithiol yn y DU.

Does dim rhaid cael fisor (neu gogls) ond os oes gennych rai, mae'r gyfraith yn berthnasol.

Er mwyn bod yn gyfreithlon:

  1. Mae'n rhaid bod y fisor/gogls yn rhai cymeradwy. Bydd arnynt naill ai nod BS4110 neu nod newydd Rheoliad 22 y GE, math 05.
  2. Gall fisor â tint fod yn gyfreithiol os yw'r marciau priodol arno ar gyfer ei ddefnyddio yng ngolau dydd yn unig. Mae llawer o fisorau tywyll, adlewyrchol etc yng anghyfreithlon. Gofynnwch i'r gwerthwr am gyngor.


 

Rhaid i ddysgwyr ddangos platiau D / L.

  1. Rhaid iddynt fod yn blatiau BS. Chewch chi ddim gwneud rhai'ch hunan.
  2. Rhaid iddynt fod yn rhai llawn maint.
  3. Rhaid eu bod yn wynebu ymlaen ac yn ôl.


 

Er mwyn bod yn gyfreithlon, mae'n rhaid bod o leiaf 1mm o drwch gwadn ar deiars beic modur, yn barhaus ar draws 75% o'r teiar. Ar deiars moped, dim ond eich bod yn gallu gweld y rhychau.

Heb fynd trwy'r holl ddeddfau traffig ffyrdd, dyma grynodeb byr:

  1. Mae'n rhaid bod gan y gyrrwr drwydded lawn ar gyfer y peiriant y mae'n ei yrru, gwisgo helmed ddiogelwch ac ati.
  2. Mae'n rhaid bod modd i'ch beic gario rhywun ar y piliwn (h.y. mae'n rhaid bod troedleoedd cymeradwy a rhaid bod y sawl sydd ar y piliwn yn gallu eu cyrraedd). Does dim terfynau oedran, ond y gyrrwr sy'n gyfrifol am gario nwyddau neu bobl yn ddiogel.
  3. Rhaid i'r sawl sydd ar y piliwn wisgo helmed ddiogelwch. Does dim rhaid bod yn oed penodol i reidio ar y piliwn ond mae'n rhaid bod yn ddigon mawr i afael, eistedd â'r ddwy droed ar y pegiau traed (felly mae 'na gyfyngiad maint) a bod yn gallu deall y cyfarwyddiadau a roddwch yn iawn.
  4. Ydych chi'n barod i gymryd y risg o reidio'r cerbyd hwn neu adael i'ch plentyn wneud hynny gan wybod ei bod yn annhebygol ei fod yn ffit nac yn gyfreithlon gwneud hynny?
Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page