Go Safe

Maintenance

Cynnal a Chadw

Yma, cewch ffeithiau am deiars a chyngor am ddiogelwch teiars.

A Oes modd trwsio teiars motobeics?

Mae'n rhaid trwsio teiars motobeics o fewn terfynau Safon Brydeinig BS159F. Gwaetha'r modd, mae hyn yn golygu na chewch drwsio teiars sydd â graddfa gyflymder o Z neu uwch. Teiars graddfa Z neu W sydd ar y rhan fwyaf o sbortsbeics 600cc ac uwch, felly nid oes modd trwsio'r rhain y tu mewn i'r Safonau Prydeinig. Mae'n iawn eu trwsio nhw dros dro er mwyn i chi gyrraedd adref neu fynd i garej leol ond bydd raid rhoi teiar newydd yn eu lle. Nid yw gwneuthurwyr teiars yn argymell defnyddio stwff i selio tyllau ac os caiff hwn ei ddefnyddio, ni fydd y warant ar y teiar yn cyfrif.

Ydi graddfeydd cyflymder yn bwysig?

Ydynt. Mae graddfa gyflymder teiar yn berthnasol i berfformiad y beic modur, felly mae'n rhaid gosod teiar o'r raddfa gywir yn unol ag argymhelliad gwneuthurwr y beic modur. Os na wneir hynny, gallai olygu na fydd unrhyw warant neu hawliad yswiriant yn ddilys.

A gaf i gymysgu teiars?

Cewch a na chewch. Mae'n syniad da cael pâr o deiars cyfatebol ar yr olwyn flaen a'r olwyn ôl. Mae'r holl gwmnïau gwneud teiars yn argymell hyn gan fod paramedrau perfformiad gwahanol wneuthurwyr yn wahanol. Gallwch roi, dywedwch, BT56 ar y tu blaen a BT57 ar y tu ôl. Teiars Bridgestone yw'r ddwy yma ond maen nhw ychydig bach yn wahanol. Yn syml, mae mwy o afael gan y 56 na'r 57 ac mae'r teiar sydd â'r gafael gorau bob amser yn mynd ar yr olwyn flaen. Mae hynny'n gyfuniad iawn. Dydi hi ddim yn syniad da rhoi Bridgestone ar yr olwyn ôl a Dunlop ar yr olwyn flaen.

Pryd yw'r amser gorau i fesur gwasgedd aer y teiars?

Dylech fesur gwasgedd aer y teiars pan fydd y teiars yn eithaf oer. Mae aer poeth yn chwyddo mewn teiar poeth gan roi darlleniadau gwahanol i chi. Darllenwch eich llawlyfr i gael gwybod y gwasgedd cywir ac, os bydd y llawlyfr yn argymell hynny, dylech ei addasu os bydd dau ar gefn y beic neu os bwriadwch deithio'n gyflym iawn am gyfnod hir.

A gaf i ddefnyddio teiar blaen ar y cefn?

Mae'r rhan fwyaf o deiars yn cael eu gwneud i'w defnyddio ar yr olwyn flaen neu'r olwyn ôl yn unig. Mae rhai cwmnïau'n gwneud teiars all fynd ar y blaen neu'r cefn ond mae saethau cyfeiriad ar y wal ochr i ddangos ffordd i'w gosod i fynd ar y tu blaen neu'r cefn. Os yw teiar wedi'i gwneud i fynd ar y tu blaen yn unig, chewch chi ddim o'i rhoi ar y cefn a vice versa.

A oes angen i deiars newydd gael eu rhedeg i mewn?

Oes. Ar ôl gosod teiars newydd, mae'n rhaid iddynt gael eu rhedeg i mewn am tua 100 milltir heb gyflymu na brecio gormod. Yna, dylid sicrhau eu bod yn eistedd yn iawn ar ymyl yr olwyn a dylid mesur eu gwasgedd. Mae teiars newydd yn llithrig. Cofiwch y rhybudd!!!

A gaf i roi teiar lletach ar fy motobeic?

Dydi hynny ddim yn syniad da, os nad yw gwneuthurwr y beic yn argymell hynny neu eich bod wedi newid yr olwynion. Os rhowch deiar lletach ar yr un ymyl, mae hynny'n aml yn ystumio proffil naturiol y teiar a gall greu problemau wrth drafod y beic. Hefyd, gall teiar mwy o faint ar gefn y beic arafu'r llywio.

A oes angen newid y falf pan fyddaf yn newid y teiar?

Edrychwch i weld a yw'r falf snap rwber yn dirywio ac, os oes rhyw amheuaeth, gosodwch un newydd. Defnyddiwch y math cywir bob tro a gosod cap falf metal aerglos.

A oes rhaid defnyddio'r teiars y mae'r llawlyfr yn eu hargymell?

Mae rhai beiciau modur yn sensitif iawn i wahanol gyfuniadau o deiars. Fodd bynnag, mae gwneuthurwyr y teiars yn profi eu teiars ar y rhan fwyaf o fodelau o superbike ac fel rheol gallant argymell beth sy'n addas ar gyfer eich model chi. Os nad ydych yn siwr, holwch eich gwerthwr lleol, nid y boi yn y dafarn.

A oes angen cydbwyso fy nheiars newydd

Oes. Er bod teiars yn cael eu gwneud yn fanwl iawn, mae bron bob amser anghydbwysedd rhwng y teiar newydd ac ymyl yr olwyn. Gall hyn wneud i'r teiar dreulio'n anwastad a dirgrynu.

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page