Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth fel Beic Cyntaf i Gyrraedd (FBOS), sy'n dweud beth i'w wneud os mai chi yw'r beic cyntaf i gyrraedd damwain.
Gallai damwain ffordd fod yn un o'r sefyllfaoedd mwyaf erchyll y byddwch ynddi erioed ac yn un o'r peryclaf. Beth bynnag a wnewch ar safle damwain, COFIWCH fod eich diogelwch chi'n hollbwysig. Peidiwch bydd â pheryglu'ch hunan.
Dyma gyngor i'ch helpu i ddelio â safle damwain yn ddiogel ac yn effeithiol.
Rhai pethau i'w hystyried
- Peidiwch â mynd at y ddamwain os nad yw'n ddiogel gwneud hynny.
- Edrychwch am beryglon – beth allai fod yn beryglus? Edrychwch i weld a oes tanwydd yn gollwng, mwg neu dân, cerbyd yn cludo cemegion peryglus ac ati.
- Ceisiwch gael gwybod beth ddigwyddodd. A oes tystion? Casglwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch.
- Faint o bobl sydd wedi'u hanafu? Pa fath o anafiadau sydd ganddynt? Edrychwch i weld a oes pobl sydd wedi'u hanafu wedi crwydro oddi wrth y cerbydau neu bobl ar gefn motobeic wedi'u taflu'n bell o'r beic.
Peidiwch â'ch peryglu chi'ch hunan
- Rhybuddiwch y traffig trwy roi'ch beic wrth ochr y ffordd ychydig cyn cyrraedd y ddamwain. Os oes pobl eraill yno, anfonwch nhw i'r ddau gyfeiriad i rybuddio traffig. Os yw'r ddamwain ger tro, ystyriwch rybuddio traffig cyn iddynt gyrraedd y tro. Yn y nos neu os na ellir gweld yn bell, defnyddiwch oleuadau beic neu gerbyd sydd heb ei ddifrodi i oleuo safle'r ddamwain.
- Cadwch draw os bydd tanwydd neu asid batri wedi gollwng a gofalwch nad oes neb gerllaw yn smocio. Gallai mwg ar safle ddamwain olygu bod tân yn cynnau neu gallai gynnwys tarth gwenwynig. Cadwch draw o'r mwg os oes modd.
- Cadwch olwg am ymylon miniog, gwydr wedi torri a chadwch draw o danau. Tanciau tanwydd yw'r risg amlwg, ond gall siocleddfwyr, ategion nwy ac unedau hongiad ffrwydro mewn tân hefyd. Gall bagiau aer a thynianwyr gwregysau diogelwch weithredu unrhyw bryd gan achosi anafiadau ychwanegol felly peidiwch â phwyso i mewn i gerbyd os nad yw’r bag aer wedi gweithio a pheidiwch â dringo ar ben nac i mewn i gerbydau anniogel.
Gwybodaeth Hanfodol ar gyfer y Gwasanaethau Argyfwng
- Ai ar draffordd, ffordd gyffredin neu lôn wledig y mae'r ddamwain? Ydi'r cerbydau mewn lle peryglus ac yn achosi risg i bobl eraill?
- Faint o bobl sydd wedi'u hanafu, lle maen nhw a beth yw natur eu hanafiadau? Os nad oes ffôn symudol gennych, lle mae'r ffôn agosaf?
- Gallai tystion a phobl eraill sydd wedi cyrraedd rybuddio traffig, galw'r gwasanaethau brys a helpu ar y safle.
- Gofynnwch am yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans bob amser. Os oes rhywun yn sownd, gofynnwch am injan dân hefyd. COFIWCH – os oes modd, peidiwch â gadael rhywun sydd wedi'i anafu. Os ydych ar eich pen eich hunan ar y safle ac nad oes gennych ffôn symudol, efallai y bydd angen i chi adael y safle i alw am HELP.
- Rhowch y manylion hyn i'r Gwasanaethau Brys: y lleoliad – y math o ddamwain a pha mor ddifrifol yw hi – faint o bobl sydd wedi'u hanafu a pha fath o anafiadau – a oes rhyw beryglon neilltuol ar y safle – beth am y ffordd? – ydi hi ar gau? Gall fod o help i gaell rhywun sy'n nabod yr ardal.
Trin y rhai sydd wedi'u hanafu
- Allwch chi ddim trin pawb ar unwaith. Beth yw anghenion y gwahanol bobl? Penderfynwch pwy i'w trin gyntaf – a oes rhywun angen ei ddadebru ar unwaith?
- Defnyddiwch fenig plastig os oes gennych rai. Byddant yn eich gwarchod chi a'r claf rhag haint.
- Peidiwch â symud pobl sydd wedi'u hanafu os nad ydynt mewn perygl yn y man lle maent e.e. ynghanol y ffordd neu ger tân cemegol. Wrth symud pobl, cofiwch y gallent fod wedi anafu eu cefn neu eu gwddf. Peidiwch â thynnu helmed os nad yw'r beiciwr yn cael trafferth i anadlu, wedi stopio anadlu neu'n chwydu. Tynnwch yr helmed yn y ffordd gywir. Cofiwch fod angen dau o bobl i dynnu helmed wyneb llawn yn iawn. Mae angen un i ddal y pen a'r gwddf trwy'r amser a'r llall i godi'r helmed a'i thynnu'n ofalus.