Go Safe

Y Gaeaf

Y Gaeaf

Gall tywydd gaeafol achosi problemau ar y ffyrdd a'i gwneud yn anodd gweld yn bell. Rhaid i chi addasu'r ffordd yr ydych yn gyrru yn ôl y tywydd ac os yw'r tywydd yn arw iawn, y cyngor gorau yw peidio â gyrru o gwbl.

Nodwch y pethau a ganlyn er mwyn cael taith ddiogelach:

  • Gofalwch fod eich cerbyd mewn cyflwr da ac wedi cael gwasanaeth yn y garej yn barod at y gaeaf – hylif atal rhewi yn y rheiddiadur a digon o afael yn y teiars.
  • Gwrandewch / gwyliwch am wybodaeth i deithwyr. Dywedwch wrth rywun lle rydych yn mynd a phryd yr ydych yn disgwyl cyrraedd.
  • Gofalwch fynd â 'de icer' a chrafwr, dillad cynnes, bwyd, esgidiau cryf a thortsh.
  • Gwylich rhag ofn na allwch weld yn bell o achos y tywydd.
  • Gyrrwch yn arafach yn ôl y tywydd.

Mewn argyfwng:

  • Stopiwch yn rhywle diogel i ddefnyddio'ch ffôn symudol neu gofynnwch i deithiwr ffonio. Ar draffordd, os yw'n ddiogel i wneud hynny, defnyddiwch ffôn argyfwng ar ochr y ffordd gan y bydd y gwasanaethau brys yn gallu dod o hyd i chi'n hawdd. Os bydd raid i chi ddefnyddio ffôn symudol, gofalwch eich bod yn gwybod lle'r ydych, gan ddefnyddio'r rhifau ar y pyst marcio ar ochr y llain galed.
  • Arhoswch gyda'r cerbyd hyd nes y daw cymorth.
  • Os oes raid i chi adael eich cerbyd i nôl cymorth, gofalwch fod gyrwyr eraill yn gallu'ch gweld.

Os bydd yn rhewllyd:

  • Mae angen mwy o le i stopio – gall gymryd deg gwaith yn fwy o bellter i stopio ar heol rewllyd nag ar heol sych.
  • Defnyddiwch y gêr uchaf bosib rhag i'r olwynion droelli.
  • Os dechreuwych sgidio, codwch eich troed oddi ar y sbardun yn raddol ond peidiwch â brecio'n sydyn.

Mewn niwl:

  • Gyrrwch yn araf.
  • Defnyddiwch oleuadau niwl os na allwch weld yn bell.
  • Cofiwch y gall niwl fod yn dameidiog felly peidiwch â chodi'ch cyflymder yn sydyn rhag ofn i chi gyrraedd darn arall o niwl.

Haul y gaeaf:

  • Gall yr haul eich dallu ar ddiwrnod o aeaf am sawl eiliad ar y tro. Gyrrwch yn araf a gwisgo sbectol haul

Tywydd gwlyb:

  • Cadwch ddigon pell oddi wrth y cerbyd o'ch blaen gan y gall fod angen mwy na dwywaith cymaint o le arnoch i stopio ag a fyddai ar heol sych.
  • Gwyliwch rhag ofn i gerbydau eraill wneud i ddŵr budr dasgu drosoch.
  • Mewn llifogydd, byddwch yn arbennig o ofalus a cheisio osgoi dŵr dwfn

Gyrru yn y Nos:

  • Mae 90% o ymateb gyrrwr yn dibynnu ar weld, ac mae'n anodd gweld yn y nos.
Dyma'r prif negeseuon:
  • Arafwch. Dylech fod yn gallu stopio o fewn y pellter y gallwch ei weld.
  • Peidiwch â dilyn ceir mor agos rhag i chi ddallu'r gyrrwr.
  • Gofalwch bod eich goleuadau'n lân, yn gweithio, ac wedi'u gosod yn iawn.
  • Peidiwch â dallu pobl eraill â'ch prif olau.
  • Gofalwch fod y ffenestr flaen yn lân y tu mewn a'r tu allan.
  • Defnyddiwch eich golau mawr os nad ydych yn gallu gweld yn dda – er enghraifft, yn gynnar yn y bore, yn y gwyll, os yw'n bwrw neu'n eithaf tywyll.
  • Os bydd eich cerbyd yn torri, dowch oddi ar yr heol cyn gynted ag y gallwch a rhoi'r goleuadau rhybudd ymlaen.
  • Mesurwch wasgedd y teiars yn aml.
Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page