Go Safe

Pobl Eraill sydd ar y Ffordd

Pobl Eraill sydd ar y Ffordd

Byddwch yn ofalus os byddwch yn:

Cario teithwyr:

  • Gofalwch fod pawb yn gwisgo gwregys diogelwch cyn cychwyn
  • Dywedwch wrthynt am fod yn dawel os ydynt yn swnllyd ac yn tynnu'ch sylw
  • Canolbwyntiwch ar gyrraedd yn ddiogel yn hytrach na cheisio creu argraff wrth droi corneli'n gyflym, pasio ceir eraill ac ati
  • Gofalwch eich bod yn effro ac mewn cyflwr i ganolbwyntio ar y daith
  • Cadwch o fewn y terfynau cyflymder
  • Peidiwch â gyrru ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau


Beicwyr:

  • Cofiwch y gallai beicwyr symud yn sydyn, yn enwedig os bydd yn wyntog neuu os bydd wyneb y ffordd yn wael
  • Gwyliwch nad oes beicwyr ar yr ochr fewn pan fyddwch yn troi i'r chwith
  • Cadwch olwg am feicwyr cyn agor drws y car
  • Byddwch yn ofalus pan fydd beicwyr yn troi i'r dde
  • Peidiwch a gwasgu heibio i feicwyr – rhowch ddigon o le iddynt, o leiaf hanner lled car
  • Peidiwch â dallu beicwyr – dipiwch eich golau fel y byddech yn ei wneud â char
  • Peidiwch â gwylltio pan fydd beicwyr yn mynd tua chanol y ffordd – mae'n rhaid iddynt osgoi draeniau a thyllau a chael eu gweld wrth gyrraedd y gyffordd â ffyrdd ochr


Cerbydau araf:

  • Byddwch yn ofalus os oes cerbydau araf ar y ffordd tra byddwch yn gyrru.
Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page