Os ewch i gysgu wrth y llyw, mae perygl y gallech ladd eich hunan, eich teithwyr a phobl eraill ddiniwed.
Credir bod 300 o bobl yn cael eu lladd bob blwyddyn am fod gyrrwr wedi mynd i gysgu wrth yrru.
Fodd bynnag, dydych chi ddim yn mynd i gysgu'n sydyn a dirybudd. Dyma rai arwyddion bod perygl i chi fynd i gysgu wrth yrru a bod angen gorffwys arnoch:

Cymerwch seibiant bob dwy awr ar deithiau hir
- Agor eich ceg / Dylyfu gên
- Llygaid yn cau
- Y pen yn gwyro am ymlaen
- Trafferth canolbwyntio
- Gwyro o'r naill lôn i'r llall
Er mwyn peidio â gyrru pan fyddwch wedi blino, darllenwch yr awgrymiadau isod:
Cyn cychwyn ar eich taith:
- Trefnwch eich taith i gynnwys egwyl o 15 munud bob dwy awr y byddwch yn gyrru
- Ceisiwch gael noson dda o gwsg cyn cychwyn ar daith bell
- Ceisiwch beidio â mynd ar daith hir rhwng hanner nos a 6am a rhwng 2 a 4 y prynhawn pan fyddwch yn fwy swrth
- Gall hyd yn oed ychydig o alcohol, a rhai meddyginiaethau a chyffuriau, wneud i chi deimlo'n gysglyd a gallech fynd i gysgu wrth yrru.
Pan fyddwch ar eich taith:
- Cymrwch egwyl o chwarter awr bob dwy awr
- Os ydych yn dechrau teimlo'n gysglyd, chwiliwch am le diogel i stopio (nid llain galed y draffordd) cyn gynted ag y gallwch
- Mae yfed dwy gwpanaid o goffi neu ddiod arall â llawer o gaffîn a gorffwys fel bod y caffîn yn cael amser i weithio yn ffyrdd effeithiol o beidio â theimlo'n gysglyd
- Rhannwch y gyrru os oes modd.
- Peidiwch ag aros i gael damwain ffordd i ddigwydd - Gall blinder ladd. Am fwy o wybodaeth