Go Safe

10 Esgus dros Oryrru

10 Esgus dros Oryrru

Ffeithiau - Does dim esgus dros oryrru ond dydi hynny ddim yn golygu nad yw pobl yn rhoi cynnig arni.

Dyma ddeg esgus yr ydym wedi'u cael go iawn:

1. Bachodd fy esgid yn y carped gan wneud i mi bwyso'r pedal.

2.Mae maint fy nheiars yn anghywir ar gyfer y cerbyd.

3. Roeddwn i ar frys i gyrraedd tŷ bach cyhoeddus.

4. Roedd gwynt cryf y tu ôl i'r car yn fy ngwthio dros y terfyn.

5. Roedd fy ffrind wedi torri ei fysedd i ffwrdd ac roeddwn ar frys i gyrraedd yr ysbyty.

6. Mae gen i gar newydd a doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor gyflym yr oedd yn mynd.

7. Roedd fy hamster yn sâl ac roedd rhaid cyrraedd y milfeddyg.

8. Fe wnes i disian yn uchel ac fe wnaeth hynny i mi wasgu'r sbardun.

9. Roeddwn i wedi clywed bod achos posib o glwy'r traed a'r genau ac roedd rhaid i mi frysio i gyrraedd y fuwch.

10.Yr unig ffordd i ddangos nad oedd y clytsh yn gweithio oedd pwyso'r sbardun.

Cofiwch: y gyrrwr sy'n gyfrifol am gyflymder y cerbyd. Dewch i nabod eich cerbyd.

Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page